Dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol
Mae trigolion Powys yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar ddatblygu gwasanaethau digidol ar gyfer archifau, amgeuddfeydd a llyfrgelloedd y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet ar Ddiwylliant a Phobl Ifanc: "Mae'n amlwg fod Covid-19 wedi newid sut rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno gwasanaethau'r Cyngor, gyda nifer o adeiladau'r cyngor megis archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, er bod rhai o'r gwasanaethau ar-lein.
"Rydym bob amser wedi cydnabod fod lle amlwg i wasanaethau digidol wrth i ni drawsnewid ein gwasanaethau diwylliannol ar draws Powys. Dyma'r rheswm felly pam ein bod yn gofyn eich barn ar sut y gallwn ddatblygu ein hadnoddau digidol ymhellach, gan gynnwys defnyddio technoleg i gysylltu â chymunedau er mwyn gallu cynnig mwy o wasanaethau digidol yn y dyfodol a bod trigolion Powys yn gallu eu defnyddio â hyder."
Bydd yr arolwg yn agor heddiw (dydd Llun 1 Mawrth) ac yn cau hanner nos, nos Sul 11 Ebrill 2021.
I lenwi'r arolwg ar-lein ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/793/Ymgynghoriadau-Presennol
I lenwi'r arolwg yn Gymraeg, cliciwch yr eicon iaith ar yr ochr dde ar frig y ffurflen.
Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'r arolwg trwy wasanaeth archebu a chasglu y llyfrgell. I ofyn am gopi papur os nad ydych yn defnyddio'r gwasanaeth archebu a chasglu, e-bostiwch library@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827460.
