Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd

Rhannu Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd ar Facebook Rhannu Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Ar Twitter Rhannu Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Ar LinkedIn E-bost Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd dolen

Mae pandemig y coronafeirws wedi newid y ffordd mae’r cyngor yn cynllunio ac yn cyflawni gwasanaethau. Cydnabyddir bod rhaid i wasanaethau digidol gael lle blaenllaw wrth inni drawsnewid dyfodol ein harchifau, ein hamgueddfeydd a’n llyfrgelloedd ym Mhowys.

Byddem yn ddiolchgar am eich sylwadau ar sut y gallwn ddatblygu ein hadnoddau digidol fel y gallwn gyflenwi gwasanaethau gwell a mwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg i gysylltu â chymunedau, gan gynnig mwy o wasanaethau ar-lein a helpu pobl i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny gyda hyder.

Mae’r arolwg yn cau ganol nos ddydd Sul 11 Ebrill 2021.

Sylwch: Cyngor Sir Powys sy’n gyfrifol am sicrhau a diogelu eich preifatrwydd wrth i chi ymateb i arolwg dros y porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn) rydym am i chi wybod y bydd yn cael ei gadw’n ddiogel am gyfnod byr yn unig, a’i ddefnyddio am y rhesymau a nodir yn yr arolwg yn unig ac yn ôl y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Cliciwch ar y tab Preifatrwydd ar waelod y dudalen i wybod mwy.

  • Dwy wythnos yn weddill i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd

    Rhannu Dwy wythnos yn weddill i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd ar Facebook Rhannu Dwy wythnos yn weddill i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Ar Twitter Rhannu Dwy wythnos yn weddill i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd Ar LinkedIn E-bost Dwy wythnos yn weddill i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd dolen

    Mae dwy wythnos yn weddill gan drigolion Powys i gael dweud eu dweud ar ddatblygu gwasanaethau digidol yn y dyfodol ar gyfer archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd y sir.

    Mae'r pandemig coronafeirws wedi newid y ffordd mae'r Cyngor yn cynllunio a chyflwyno ei wasanaeth. Cydnabyddir fod rhaid i wasanaethau digidol chwarae rôl amlwg wrth drawsnewid dyfodol ein harchifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd ym Mhowys.

    Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Powys: "Rydym yn gofyn am farn trigolion ar sut i ddatblygu ein hadnoddau digidol i gyflwyno gwasanaethau gwell a mwy effeithiol ar draws ein llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg i ddarparu mwy o wasanaethau o bosibl ar-lein a chynnig help i bobl gael yr hyder i ddefnyddio'r gwasanaethau digidol hynny yn y dyfodol."

    Daw'r arolwg hwn i ben am ganol nos ar ddydd Sul 11 Ebrill 2021.

    I lenwi'r arolwg ar-lein, edrychwch ar https://en.powys.gov.uk/article/790/Current-Consultations

    Mae copïau papur o'r arolwg yn cael eu dosbarthu hefyd trwy wasanaeth archebu a chasglu'r llyfrgell. I ofyn am gopi papur o'r arolwg, os nad ydych eisoes yn defnyddio'r gwasanaeth archebu a chasglu, anfonwch e-bost at library@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827460.

  • Dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol

    Rhannu Dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol ar Facebook Rhannu Dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol Ar Twitter Rhannu Dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol Ar LinkedIn E-bost Dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol dolen

    Mae trigolion Powys yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar ddatblygu gwasanaethau digidol ar gyfer archifau, amgeuddfeydd a llyfrgelloedd y sir.

    Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet ar Ddiwylliant a Phobl Ifanc: "Mae'n amlwg fod Covid-19 wedi newid sut rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno gwasanaethau'r Cyngor, gyda nifer o adeiladau'r cyngor megis archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, er bod rhai o'r gwasanaethau ar-lein.

    "Rydym bob amser wedi cydnabod fod lle amlwg i wasanaethau digidol wrth i ni drawsnewid ein gwasanaethau diwylliannol ar draws Powys. Dyma'r rheswm felly pam ein bod yn gofyn eich barn ar sut y gallwn ddatblygu ein hadnoddau digidol ymhellach, gan gynnwys defnyddio technoleg i gysylltu â chymunedau er mwyn gallu cynnig mwy o wasanaethau digidol yn y dyfodol a bod trigolion Powys yn gallu eu defnyddio â hyder."

    Bydd yr arolwg yn agor heddiw (dydd Llun 1 Mawrth) ac yn cau hanner nos, nos Sul 11 Ebrill 2021.

    I lenwi'r arolwg ar-lein ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/793/Ymgynghoriadau-Presennol

    I lenwi'r arolwg yn Gymraeg, cliciwch yr eicon iaith ar yr ochr dde ar frig y ffurflen.

    Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'r arolwg trwy wasanaeth archebu a chasglu y llyfrgell. I ofyn am gopi papur os nad ydych yn defnyddio'r gwasanaeth archebu a chasglu, e-bostiwch library@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827460.