Dwy wythnos yn weddill i gael dweud eich dweud ar ddyfodol Gwasanaethau Digidol ar gyfer Archifau, Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd
Mae dwy wythnos yn weddill gan drigolion Powys i gael dweud eu dweud ar ddatblygu gwasanaethau digidol yn y dyfodol ar gyfer archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd y sir.
Mae'r pandemig coronafeirws wedi newid y ffordd mae'r Cyngor yn cynllunio a chyflwyno ei wasanaeth. Cydnabyddir fod rhaid i wasanaethau digidol chwarae rôl amlwg wrth drawsnewid dyfodol ein harchifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd ym Mhowys.
Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Powys: "Rydym yn gofyn am farn trigolion ar sut i ddatblygu ein hadnoddau digidol i gyflwyno gwasanaethau gwell a mwy effeithiol ar draws ein llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg i ddarparu mwy o wasanaethau o bosibl ar-lein a chynnig help i bobl gael yr hyder i ddefnyddio'r gwasanaethau digidol hynny yn y dyfodol."
Daw'r arolwg hwn i ben am ganol nos ar ddydd Sul 11 Ebrill 2021.
I lenwi'r arolwg ar-lein, edrychwch ar https://en.powys.gov.uk/article/790/Current-Consultations
Mae copïau papur o'r arolwg yn cael eu dosbarthu hefyd trwy wasanaeth archebu a chasglu'r llyfrgell. I ofyn am gopi papur o'r arolwg, os nad ydych eisoes yn defnyddio'r gwasanaeth archebu a chasglu, anfonwch e-bost at library@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827460.
