Hydref 2025: Ceisio eich barn ar ganolfan iechyd a lles newydd yn y Drenewydd

Rhannu Hydref 2025: Ceisio eich barn ar ganolfan iechyd a lles newydd yn y Drenewydd ar Facebook Rhannu Hydref 2025: Ceisio eich barn ar ganolfan iechyd a lles newydd yn y Drenewydd Ar Twitter Rhannu Hydref 2025: Ceisio eich barn ar ganolfan iechyd a lles newydd yn y Drenewydd Ar LinkedIn E-bost Hydref 2025: Ceisio eich barn ar ganolfan iechyd a lles newydd yn y Drenewydd dolen

Daeth y cyfnod ymgysylltu hwn i ben ar 16 Tachwedd 2025.

Mae'r safbwyntiau a glywsom yn ystod yr ymgysylltiad hwn wedi ein helpu ni ddiweddaru a chwblhau'r Achos Amlinellol Strategol / Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam Un. Cyflwynwyd hyn i Lywodraeth Cymru ar 18 Rhagfyr 2025 ac rydym yn aros am eu penderfyniad. Ewch i’n prif dudalen i gael y diweddariadau diweddaraf neu cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau rheolaidd drwy anfon e-bost atom yn powys.wellbeing@wales.nhs.uk.

------------------------------------

Ein Syniadau ar gyfer Hyb Iechyd a Lles Newydd yn y Drenewydd.

Dyma ein cynigion ar gyfer hyb iechyd a lles gwerth £30m yng nghanol y Drenewydd. Y cynnig yw cam cyntaf cynlluniau ar gyfer prosiect campws ar raddfa fwy a fyddai, os rhoddir cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn gweld ysbyty newydd yn cael ei adeiladu yng nghanol y Drenewydd.

Beth allai'r hyb newydd - sydd wedi'i leoli ar safle swyddfeydd Y Parc y cyngor - ei olygu i chi?

Mynediad i gartref newydd i'r llyfrgell gyhoeddus ochr yn ochr ag ystafelloedd aml-ddefnydd ar gyfer gweithgareddau lles, gan gynnwys y rhai a gynhelir gan grwpiau gwirfoddol lleol.

Byddwch yn gallu manteisio ar ganolfan hyfforddi a llyfrgell academaidd newydd, sy'n cefnogi gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Dewch o hyd i gefnogaeth i blant a theuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl i bob oed.

Ewch i’n gofod cymunedol a lles gyda lluniaeth. Bydd hefyd gennych fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol mewn amgylchedd o’r radd flaenaf.

Adeilad mwy hygyrch i'r rhai sy'n byw ag anableddau gan gynnwys 'man newid' newydd yn y Drenewydd. Profi cyfleusterau gwell ar gyfer gwasanaethau plant (er enghraifft, byddai gwasanaethau plant BIAP yn symud o Ynys Y Plant) a Chanolfan Integredig i Deuluoedd y Drenewydd. Mynediad at wasanaethau deintyddol cymunedol.

Mae partneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn datblygu'r cynigion ar gyfer y cam cyntaf - canolfan iechyd a lles newydd, o'r radd flaenaf, wedi'i lleoli ar safle swyddfeydd Y Parc, wedi'i chynllunio i ddod ag ystod eang o wasanaethau ynghyd o dan un to a'i gwneud hi'n haws i chi a'ch teulu gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Os bydd cais am gyllid i Lywodraeth Cymru ar gyfer y cam cyntaf hwn yn llwyddiannus, byddai'r prosiect yn gweld buddsoddiad o £30 miliwn mewn cyfleusterau iechyd a lles yn y Drenewydd.

Bydd tîm o'r bartneriaeth – Rhaglen Lles Gogledd Powys – yn cynnal sesiynau galw heibio cyhoeddus (gweler y dyddiadau ar y dde) i drafod y cynigion ar gyfer yr hyn iechyd a lles. Darperir rhai delweddau o sut olwg allai fod ar y safle isod hefyd.

Mae'r arolwg ar-lein (gweler ar y dde) ar gael tan 16 Tachwedd 2025 ac mae copïau caled o'r arolwg ar gael mewn llyfrgelloedd yng ngogledd Powys tan 13 Tachwedd 2025.

Pam rydyn ni'n cynnig hyn?

Mae llawer o'r adeiladau presennol wedi dyddio ac nid ydynt wedi'u cynllunio ar gyfer iechyd a gofal modern. Mae angen i ni fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n helpu pobl gofalu am eu lles eu hunain er mwyn ceisio lleihau'r galw ar feddygon teulu a'n prif ysbytai. Drwy ddod â gwasanaethau at ei gilydd mewn lleoliad canolog a hygyrch, bydd yr hyb newydd yn gwneud bywyd yn haws i bobl leol. Mae'r gwaith hwn yn digwydd ochr yn ochr â chynlluniau Cyngor Sir Powys i adeiladu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Calon y Dderwen ar ochr orllewinol y campws. Mae nifer o'n hadeiladau presennol yn y Drenewydd yn wynebu biliau cynnal a chadw sylweddol (tua £2.5m) ac maent yn ddrud i'w rhedeg. Gall y prosiect hwn helpu hybu busnes a chyflogaeth yn y Drenewydd. Mae angen i ni weithio'n agosach gyda'n partneriaid fel y gallwn wasanaethu pobl gogledd Powys orau.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd eich barn yn helpu llunio cais am gyllid o £30 miliwn, a ddisgwylir i gael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i Lywodraeth Cymru y gaeaf hwn. Os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru - ac yn amodol ar ganiatâd cynllunio - gallai'r hyb newydd agor o fewn tair blynedd. Nod y prosiect yw creu cymuned iachach a mwy cysylltiedig, gyda mynediad haws at wasanaethau ataliol sy'n eich helpu chi aros yn iach ac osgoi teithiau diangen i'r ysbyty. Dyma gam cyntaf prosiect aml-gam i wella gwasanaethau iechyd a lles ledled Gogledd Powys. Yn dilyn ein cais am gyllid y gaeaf hwn, byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ysbyty newydd i'r Drenewydd a chyfleusterau diagnosteg a thriniaeth newydd.

Mae'r datblygiadau hyn bellach yn cael eu cyflawni drwy raglen aml-gam yn hytrach nag un cais am gyllid. Mae hyn oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod dull graddol ar gyfer campws y Drenewydd yn fwy tebygol o fod yn fforddiadwy ac yn gyraeddadwy i'r pwrs cyhoeddus.

  • Delweddau Safle

    Rhannu Delweddau Safle ar Facebook Rhannu Delweddau Safle Ar Twitter Rhannu Delweddau Safle Ar LinkedIn E-bost Delweddau Safle dolen

    Bydd y ganolfan iechyd a lles arfaethedig wedi'i lleoli ar safle swyddfeydd Y Parc, sy'n eiddo i Gyngor Sir Powys ac sydd ar brydles i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

    Golygfa o'r awyr i'r dwyrain

    .

    Golygfa o'r Stryd Fawr. 
    Ardal gylchrediad ar y llawr cyntaf.

    Rhai syniadau ar gyfer cladio'r adeilad.

Diweddaru: 16 Chwef 2026, 02:30 PM