06 Tachwedd 2025

Digwyddiad Galw Heibio - Hafan Yr Afon, Y Drenewydd - 4pm tan 6.30pm

Dyma gam cyntaf prosiect i wella cyfleusterau iechyd a lles yng ngogledd Powys. Bydd y cam cyntaf yn canolbwyntio'n bennaf ar wasanaethau i bobl sy'n byw yn y Drenewydd a chymunedau cyfagos. Mae uchelgeisiau'r dyfodol yn cynnwys ysbyty newydd yng nghanol y Drenewydd. 

Rydym yn cynnal sesiwn galw heibio gyhoeddus i chi ddod draw a sgwrsio â'r tîm am y prosiect.


Fel arall, gallwch ddysgu mwy a chwblhau ein harolwg ar-lein yn www.powyswellbeing.wales Neu gallwch lenwi copi papur o'n harolwg - sydd ar gael o lyfrgelloedd yn y Drenewydd, Trefaldwyn, Llanidloes, Machynlleth, y Trallwng a Llanfyllin. Mae angen derbyn pob arolwg papur cyn dydd Iau 13 Tachwedd 2025. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion ar-lein yw hanner nos ddydd Sul 16 Tachwedd 2025.