Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026)
Consultation has concluded
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Powys a fabwysiadwyd ym mis Ebrill 2018 yn nodi polisïau’r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir ym Mhowys (ac eithrio'r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) hyd at 2026.
Erbyn hyn mae’n rhaid i Awdurdod Cynllunio Lleol Powys adolygu CDLl Powys sydd wedi’i fabwysiadu i sicrhau bod y CDLl a'i dystiolaeth gefnogol yn cael eu diweddaru.
Mae Drafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu yn nodi’r wybodaeth sydd wedi bod yn sail i'r adolygiad ac yn ystyried effaith y canfyddiadau ar y CDLl. Mae hefyd yn nodi'r dull arfaethedig tuag at adolygu'r CDLl. Daw Drafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu i’r casgliad mai’r math mwyaf priodol o ddiwygiad fyddai Diwygiad Llawn o’r CDLl trwy baratoi CDLl Diwygiedig ar gyfer y cyfnod 2022-2037.
Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am eich barn am y canfyddiadau a’r casgliadau a nodir yn Nrafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu ac ynghylch pa faterion eraill y dylid eu hystyried yn yr adolygiad. Nid yw’n bosibl ystyried newidiadau i’r CDLl yn fanwl ar hyn o bryd, gan y bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o broses y CDLl Diwygiedig.
Os hoffech wneud sylwadau am gynnwys y ddogfen hon, cyflwynwch nhw trwy'r arolwg ar-lein isod. Bydd angen cyflwyno unrhyw sylwadau a anfonir trwy e-bost neu bost gan ddefnyddio Ffurflen Sylwadau. Mae copïau o’r ffurflenni ar gael ochr yn ochr â’r dogfennau ymgynghori a dylid eu hanfon fel PDF i ldp@powys.gov.uk neu trwy'r post i: Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys SY21 7PH.
Mae ymgynghori ar wahân yn digwydd hefyd am Ddrafft Ymgynghori’r Cytundeb Cyflanwi ar gyfer y CDLl Diwygiedig https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ldp-draft-agreement-cymraeg
Sylwadau Grwpiau
Lle mae grwpiau’n rhannu barn gyffredin am faterion sydd wedi'u cynnwys yn y dogfennau ymgynghori, byddai'n ddefnyddiol iawn i'r grŵp anfon un sylw sy'n cynrychioli'r farn honno.
Beth sy'n Digwydd Nesaf?
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y Cyngor yn adolygu'r sylwadau a dderbyniwyd ac yn gwneud diwygiadau i'r Adroddiad Adolygu fel y bernir yn briodol. Bydd y sylwadau’n cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Adolygu terfynol, a fydd hefyd yn cynnwys ymateb y Cyngor i’r sylwadau ynghyd ag unrhyw newidiadau a gynigir i'r Adroddiad Adolygu. Bydd yr Adroddiad Adolygu yn cael ei ystyried i’w gymeradwyo gan y Cyngor cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac yna bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor.
Sylwch: Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a gwarchod eich preifatrwydd pan fyddwch chi'n ymateb i arolwg gan ddefnyddio'r porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), hoffem i chi wybod y bydd yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a’i ddefnyddio at ddibenion fel y disgrifir yn yr arolwg hwn yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab Preifatrwydd ar waelod y dudalen i ganfod mwy.