Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026)

Rhannu Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026) ar Facebook Rhannu Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026) Ar Twitter Rhannu Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026) Ar LinkedIn E-bost Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Powys (2011-2026) dolen

Consultation has concluded

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Powys a fabwysiadwyd ym mis Ebrill 2018 yn nodi polisïau’r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir ym Mhowys (ac eithrio'r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) hyd at 2026.

Erbyn hyn mae’n rhaid i Awdurdod Cynllunio Lleol Powys adolygu CDLl Powys sydd wedi’i fabwysiadu i sicrhau bod y CDLl a'i dystiolaeth gefnogol yn cael eu diweddaru.

Mae Drafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu yn nodi’r wybodaeth sydd wedi bod yn sail i'r adolygiad ac yn ystyried effaith y canfyddiadau ar y CDLl. Mae hefyd yn nodi'r dull arfaethedig tuag at adolygu'r CDLl. Daw Drafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu i’r casgliad mai’r math mwyaf priodol o ddiwygiad fyddai Diwygiad Llawn o’r CDLl trwy baratoi CDLl Diwygiedig ar gyfer y cyfnod 2022-2037.

Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am eich barn am y canfyddiadau a’r casgliadau a nodir yn Nrafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu ac ynghylch pa faterion eraill y dylid eu hystyried yn yr adolygiad. Nid yw’n bosibl ystyried newidiadau i’r CDLl yn fanwl ar hyn o bryd, gan y bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o broses y CDLl Diwygiedig.

Os hoffech wneud sylwadau am gynnwys y ddogfen hon, cyflwynwch nhw trwy'r arolwg ar-lein isod. Bydd angen cyflwyno unrhyw sylwadau a anfonir trwy e-bost neu bost gan ddefnyddio Ffurflen Sylwadau. Mae copïau o’r ffurflenni ar gael ochr yn ochr â’r dogfennau ymgynghori a dylid eu hanfon fel PDF i ldp@powys.gov.uk neu trwy'r post i: Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys SY21 7PH.

Mae ymgynghori ar wahân yn digwydd hefyd am Ddrafft Ymgynghori’r Cytundeb Cyflanwi ar gyfer y CDLl Diwygiedig https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ldp-draft-agreement-cymraeg

Rhaid derbyn sylwadau erbyn 5.00 pm, 1 Chwefror 2022.

Sylwadau Grwpiau

Lle mae grwpiau’n rhannu barn gyffredin am faterion sydd wedi'u cynnwys yn y dogfennau ymgynghori, byddai'n ddefnyddiol iawn i'r grŵp anfon un sylw sy'n cynrychioli'r farn honno.

Beth sy'n Digwydd Nesaf?

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y Cyngor yn adolygu'r sylwadau a dderbyniwyd ac yn gwneud diwygiadau i'r Adroddiad Adolygu fel y bernir yn briodol. Bydd y sylwadau’n cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Adolygu terfynol, a fydd hefyd yn cynnwys ymateb y Cyngor i’r sylwadau ynghyd ag unrhyw newidiadau a gynigir i'r Adroddiad Adolygu. Bydd yr Adroddiad Adolygu yn cael ei ystyried i’w gymeradwyo gan y Cyngor cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac yna bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor.

Sylwch: Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a gwarchod eich preifatrwydd pan fyddwch chi'n ymateb i arolwg gan ddefnyddio'r porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), hoffem i chi wybod y bydd yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a’i ddefnyddio at ddibenion fel y disgrifir yn yr arolwg hwn yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab Preifatrwydd ar waelod y dudalen i ganfod mwy.

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Cofiwch: bydd eich enw a'r sylwadau yn eich ymateb i'r ymgynghoriad hwn ar gael i'r cyhoedd. Bydd data personol (eich cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad post a'ch rhif ffôn) yn cael eu trin yn gyfrinachol ac ni fyddant ar gael i'r cyhoedd. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw gael ei gyhoeddi gyda’ch sylwadau, rhowch wybod i ni yn eich ymateb i gwestiwn 9 isod. Bydd unrhyw ddata personol (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn) yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a’i ddefnyddio at ddibenion adolygu’r CDLl mabwysiedig (2011-2026) yn unig, ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd.

    Consultation has concluded
    Rhannu Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu ar Facebook Rhannu Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu Ar Twitter Rhannu Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu Ar LinkedIn E-bost Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu dolen