Gwelliannau Llyn Llandrindod i Gerddwyr a Seiclwyr Ymgysylltiad opsiynau system unffordd

Rhannu Gwelliannau Llyn Llandrindod i Gerddwyr a Seiclwyr Ymgysylltiad opsiynau system unffordd ar Facebook Rhannu Gwelliannau Llyn Llandrindod i Gerddwyr a Seiclwyr Ymgysylltiad opsiynau system unffordd Ar Twitter Rhannu Gwelliannau Llyn Llandrindod i Gerddwyr a Seiclwyr Ymgysylltiad opsiynau system unffordd Ar LinkedIn E-bost Gwelliannau Llyn Llandrindod i Gerddwyr a Seiclwyr Ymgysylltiad opsiynau system unffordd dolen

Mae’r ymgysylltiad opsiynau hwn wedi cau.

Cynllun 

Bydd y cynllun hwn yn gwneud isadeiledd dros dro i gerddwyr a seiclwyr a’r system unffordd i briffyrdd o gwmpas Llandrindod, a sefydlwyd yn ystod pandemig Covid, yn un parhaol.

Bydd y cynllun hefyd yn sefydlu gwell cyswllt teithio llesol (llwybr i gerddwyr a seiclwyr) ar hyd Princes Road gan arwain at Spa Road East.

Newidiadau i’r llwybr cyfredol 

Bydd y llwybr dros dro cyfredol i gerddwyr a seiclwyr yn cael ei wneud yn barhaol. Bydd hyn yn cynnwys symud y cyrb presennol allan i greu llwybr defnydd a rennir o leiaf 3 metr o led.

Pam ydym ni’n gwneud hyn? 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n glir fod yn rhaid i gerdded a seiclo fod yn ddewis naturiol fel dull ar gyfer teithiau byr bob dydd, neu fel rhan o daith hirach ar y cyd â dulliau eraill cynaliadwy. Mae Cyngor Sir Powys yn ymgymryd â phrosiectau lluosog bob blwyddyn i wella ac ychwanegu at y rhwydwaith teithio llesol sy’n tyfu ledled y sir i’w gwneud hi’n haws i ni i gyd fwynhau cerdded a seiclo yn ein hardaloedd lleol.

Mae Cyngor Tref Llandrindod wedi helpu i ddadansoddi’r llwybr unffordd, a gafodd ei roi ar waith yn ystod y pandemig er mwyn gwneud gwelliant diogel i hygyrchedd cerdded a seiclo o gwmpas y llyn. Mae’r adborth hwn o’r gymuned wedi cael ei ystyried ac mae’r cynllun yn cael ei weld fel llwyddiant.

Argymhellir nawr bod y newidiadau hyn yn rhai parhaol, ac ar hyn o bryd rydym ni’n gofyn am adborth oddi wrth y gymuned am yr opsiynau posibl.

Pwy sy’n ariannu hyn? 

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin o’r Llywodraeth Ganolog fydd yn talu am yr holl gostau sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn.

Pryd fydd e’n dechrau? 

Mae dyluniadau manwl yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant ar gael ar-lein yn fuan.

Rhagwelir y bydd yr adeiladu yn dechrau ddiwedd hydref 2024.

Gallwch e-bostio unrhyw gwestiynau i: active@powys.gov.uk

  • AR GAU: Mae'r arolwg ar gau

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Mae'r arolwg hwn yn ddienw. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Rhannu Arolwg Ar-lein ar Facebook Rhannu Arolwg Ar-lein Ar Twitter Rhannu Arolwg Ar-lein Ar LinkedIn E-bost Arolwg Ar-lein dolen