Newyddion Diweddaraf
Faint o bobl a ymatebodd i'r ymgysylltiad? |
206 |
Faint o bobl ymwelodd â'r dudalen ymgysyltiad? |
724 |
Beth sy'n digwydd nesaf? |
Bydd yr adborth gan breswylwyr ac ymwelwyr yn hanfodol, gan fod y grŵp yn adolygu'r mesurau i weld a oes modd gwneud unrhyw beth yn wahanol yn ystod sioeau'r dyfodol. |
Beth yw'r newyddion diweddaraf? |
5 Gorffennaf 2023 Bydd cyfres o fesurau diogelwch, sy'n cynnwys ymgyrch i annog ieuenctid i Gael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel, yn dychwelyd cyn Sioe Frenhinol Cymru y mis hwn. Bydd yr ymgyrch greadigol a hwyliog sy'n cynnwys arddangos cyfres o bosteri, baneri a chyfryngau eraill mewn lleoliadau trwyddedig ledled Llanfair-ym-Muallt yn ystod wythnos y sioe yn annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol. Caiff yr ymgyrch ei gweithredu gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt. Nod y mesurau a gyflwynwyd gan y grŵp diogelu, a ffurfiwyd yn 2017 gan Gyngor Sir Powys, yw lleihau risg cyhoeddus a gwella diogelwch y sawl a fydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch tra bo Sioe Frenhinol Cymru yn mynd rhagddi. |