Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr - Ymgynghoriad Opsiynau Safle
Cwmpasu Opsiynau Safle i lywio Dewis Safle
Cyflwniad
Mae'r Cyngor wedi dynodi’r angen[1] ar gyfer safle sipsiwn a theithwyr newydd yn ardal Y Trallwng. Mae'r angen i ddod o hyd i safle addas ar gyfer llety sipsiwn a theithwyr wedi'i gynnwys yn y gwaith hyd yma ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) Powys (2022–2037)[2].
Rhaid i'r safle newydd ddarparu ar gyfer 12 o leiniau ar gyfer cartrefi symudol newydd gyda’r posibilrwydd o le i ehangu yn y dyfodol. Mae'n ofynnol i'r Cyngor ddilyn canllawiau cyhoeddedig Llywodraeth Cymru[3] wrth gynllunio a datblygu'r math hwn o safle. Mae gan bob llain ofynion penodol, er enghraifft, dylai pob llain fod â mynediad at safle amwynder ynghyd ag ardal galed oddi tano. Cyfrifir bod angen safle sydd yn 1.2 hectar o leiaf.
Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ac argaeledd cyllid (gall Llywodraeth Cymru darparu arian grant ar gyfer y math hwn o safle), disgwylir i'r safle newydd gael ei gwblhau dros y cyfnod 2026-2027.
Mae'r Cyngor wedi ymchwilio i'w ddaliadau tir ei hun yng nghyffiniau Y Trallwng i weld a allai safle addas fod ar gael ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. O'r gwaith hwn, mae nifer o safleoedd/ardaloedd chwilio wedi'u dewis fel opsiynau posibl.
Mae'r Cyngor bellach yn ymgynghori ac yn gofyn am farn ar yr opsiynau hyn i lywio'r camau nesaf.
[1] Dogfennau Ategol CDLl Newydd Powys – Dogfen Sylfaen Dystiolaeth – Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
[2] CDLl Newydd Powys (Strategaeth a Ffefrir) Dogfennau Ategol Papur Cefndir -– Datganiad Sefyllfa Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
[3] Canllawiau a Chylchlythyr Cynllunio Llywodraeth Cymru
Opsiynau Safleoedd
Mae angen y safle newydd ar gyfer y gymuned sy'n byw yn y safle sipsiwn a theithwyr sy'n cael ei redeg gan y Cyngor yn safle Bwa Tre’r Llai ger Y Trallwng. Mae'r safle’n llawn ac nid oes lle pellach y gellir ei ail-drefnu. Nid yw'n bosibl ymestyn y safle presennol i ddarparu lleiniau ychwanegol gan fod perygl o lifogydd yn cyfyngu ar yr ardal. Mae angen safle newydd yn weddol agos at y safle presennol.
Ystyrir bod y prif gyfleoedd tir ar Ffermydd a Thir Ystadau sy'n eiddo i Gyngor Sir Powys gan fod y Cyngor yn gallu rheoli (yn amodol ar unrhyw faterion tenantiaeth) y gellir rhyddhau'r safle ar gyfer y defnydd newydd o fewn yr amserlenni angenrheidiol yn ddibynnol ar gael caniatâd cynllunio.
Mae'r Cyngor wedi edrych ar y cyfleoedd a'r cyfyngiadau ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn ardal Y Trallwng a chrewyd rhestr fer o 6 opsiwn posibl:
Opsiwn | Lleoliad | Ardal chwilio (hectarau) | Cyfeiriad | Setliad Agosaf |
---|---|---|---|---|
1 | Parsel 1 yn Nhre’r Llai, Y Trallwng | 7.83 ha | LTir gyferbyn â Severnleigh/Stablau/Tŷ Coets/Ydlofft | Tre’r Llai |
2 | Parsel 2 yn Nhre’r Llai, Y Trallwng | 11.39 ha | Tir i'r de-orllewin o Severnleigh | Tre’r Llai |
3 | Daliad Tir yn Nhre’r Llai, Y Trallwng | 47.12 ha | Adeiladau a thir yn Gwyns Barn | Tre’r Llai |
4 | Parsel 1 yn Ffordun, Y Trallwng | 2.92 ha | Tir wrth ymyl Pentref Ffordun - i'r gogledd o Church Farm/Church Farm Close | Ffordun |
5 | Parsel 2 yn Ffordun, Y Trallwng | 3.6 ha | Tir oddi ar ffordd C2114, i'r de/de-orllewin o Church Farm/Church Farm Close (a gyferbyn â Fields Pound) | Ffordun |
6 | Daliad Tir yn Yr Ystog, Trefaldwyn | 8.26 ha | Tir wrth ymyl pentref Yr Ystog – tir Fir House | Yr Ystog |
NODUR: Bydd y safle Sipsiwn a Theithwyr newydd o 12 llain yn 1.2 ha (yn fras) felly dim ond rhan o unrhyw ardal ar y rhestr fer y byddai ei hangen. Ni wyddys a fydd angen ymestyn y safle yn y dyfodol gan y bydd hyn yn dibynnu ar y dystiolaeth ar y pryd.
Wrth ystyried y lleoliad mwyaf addas ar gyfer safle newydd, mae canllawiau perthnasol yng Nghylchlythyr Cynllunio (005/2018) gan gynnwys cyngor ym mharagraffau 38 a 39.:
“38. Wrth benderfynu ymhle i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried yn gyntaf leoliadau cynaliadwy addas o fewn neu gerllaw ffiniau aneddiadau presennol, sy’n cynnig mynediad at wasanaethau lleol e.e., lleoliadau addysg, gwasanaethau iechyd a siopau.”
“39. Ceir ystyried safleoedd yng nghefn gwlad, i ffwrdd o aneddiadau presennol, ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr os oes diffyg lleoliadau cynaliadwy addas o fewn neu gerllaw ffiniau aneddiadau presennol.”
Cynlluniau Lleoliadau
- Safleoedd Tre’r Llai 1-3
- Safleoedd Tre’r Llai 1-3 gyda'r safle presennol
- Safleoedd Ffordun 4 a 5
- Safle Yr Ystog 6
Awgrymiadau ar gyfer safleoedd amgen
Mae'r Cyngor yn agored i awgrymiadau amgen ynghylch dod o hyd i safle newydd i ddiwallu anghenion ardal Y Trallwng (isafswm o 12 llain) a hoffem annog defnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen (safleoedd tir llwyd) os oes unrhyw gyfleoedd yn yr ardal ddaearyddol.
Mae'r ymgynhoriad hwn yn canolbwyntio ar bosibiliadau ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Mae'r Cyngor yn parhau i chwilio ac ystyried cyfleoedd datblygu eraill sydd ar gael ar gyfer safle sipsiwn a theithwyr yn ardal Y Trallwng.
Gofynnir i unrhyw un sydd am gyflwyno opsiwn ar gyfer safle amgen i’w ystyried ac sydd â rheolaeth ddigonol dros y tir i ymateb erbyn dyddiad cau’r ymgynghoriad (22 Hydref), gan roi manylion am y safle posibl (1.2 ha a mwy) gan gynnwys cynllun lleoliad a'r rhesymau dros ei gyflwyno. Rhowch grynodeb pam yr ystyrir bod y tir amgen yn addas, ar gael ac yn bosibl ei gyflwyno fel lleiniau ar gyfer cartrefi symudol yn y tymor byr.
Gellir cyflwyno awgrymiadau ar gyfer safleoedd amgen drwy y wefan hon, e-bost neu'r post.
Dylai safleoedd fod ar gael am o leiaf 21 mlynedd. Ni fernir bod safleoedd sydd wedi'u cyfyngu gan broblemau fel perygl o lifogydd, mynediad anniogel i’r ffordd fawr, llygredd neu halogiad (oni bai eu bod yn adferadwy), neu'r rhai mewn lleoliadau anghysbelll i fod yn addas.
Nid cam ffurfiol yn "galw am safleoedd" yw hwn ar gyfer CDLl Newydd Powys ac mae'r Cyngor yn chwilio am ddarpar safleoedd posibl i fodloni'r gofyn am safle sipsiwn a theithwyr yn unig, h.y. nid safleoedd tai mwy cyffredinol.
Dweud eich dweud
Hoffem gael gwybod eich barn ar yr opsiynau safleoedd sydd ar y rhestr fer a welir uchod.
Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein arolwg isod drwy glicio'r 'LLENWI’R FFURFLEN'.
Rhaid i ymatebwyr roi enw a chyfeiriad (bydd y Cyngor yn rheoli'r wybodaeth hon yn unol â GDPR – gweler y datganiad preifatrwydd). Gall sylwadau gael eu cyhoeddi'n llawn, ond bydd yr holl fanylion personol yn cael eu dileu neu eu golygu.
Gellir cyflwyno sylwadau hefyd drwy anfon e-bost i ldp@powys.gov.uk neu drwy'r post. Dylid anfon ffurflenni post at: Adran Bolisi Cynllunio, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.
Mae'r ddogfen ymgynghori lawn, gan gynnwys ffurflen adborth y gallwch ei lawrlwytho a'i hargraffu, i'w gweld yma.
Gwnewch yn siŵr bod eich sylwadau'n gwrtais, yn barchus ac yn berthnasol. Cofiwch i osgoi cynnwys camarweiniol, anghyfreithlon neu dramgwyddus. Ni fydd sylwadau sy'n cam-drin yn cael eu goddef na'u hateb.
Dylid cyflwyno'r holl ymatebion erbyn 5pm ar 22 Hydref 2025.