Polisi Ystadau Fferm

Rhannu Polisi Ystadau Fferm ar Facebook Rhannu Polisi Ystadau Fferm Ar Twitter Rhannu Polisi Ystadau Fferm Ar LinkedIn E-bost Polisi Ystadau Fferm dolen

Rydym yn gofyn am farn amrywiaeth eang o breswylwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys tenantiaid presennol a blaenorol Ystâd Fferm Cyngor Sir Powys, aelodau o'r gymuned ffermio leol a sefydliadau amaethyddol. Nod y ymgynghoriad hwn yw casglu adborth ar gyfeiriad Ystâd Fferm y Cyngor yn y dyfodol gan gynnwys y polisi Ystâd Fferm drafft newydd – Cefnogi Dyfodol Gwledig Cynaliadwy.

Darllenwch y polisi Ystâd Fferm drafft newydd yma

Rydym am ddeall a yw'r ystâd fferm, fel gwasanaeth anstatudol, yn flaenoriaeth i'n preswylwyr, ac os felly sut y gallwn wella'r adnodd i ddiwallu eu hanghenion yn y dyfodol gyda'r polisi cywir. Rydym hefyd am ddarganfod beth sy'n gweithio'n dda, beth y gellid ei wella, a sut orau y gall yr ystâd gefnogi newydd-ddyfodiaid i ffermio, defnydd tir cynaliadwy, a'r economi wledig ehangach.

Bydd yr adborth a gawn yn helpu i lunio dyfodol yr Ystâd Fferm. Mae sawl agwedd ar ffermio a bywyd wedi newid dros amser, ond nid yw ein Hystâd Fferm wedi gweld y buddsoddiad i drawsnewid. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r asedau hyn ar gyfer y dyfodol a Phowys mwy Cynaliadwy.

Dweud eich dweud

Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein harolwg isod drwy glicio botwm 'CWBLHAU'R FFURFLEN'.

Mae copïau papur o'r ymgynghoriad ar gael i'w lawrlwytho yma neu gellir eu casglu o'ch llyfrgell leol. Dychwelwch ffurflenni wedi'u llenwi at staff y llyfrgell, neu sganiwch a'u hanfon drwy e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw dydd Sul 12 Hydref 2025.

  • Rydym wedi newid y ffordd y mae ein hymgynghoriadau'n gweithio yn ddiweddar sy'n golygu mai dim ond un ymateb y gallwn ei dderbyn fesul person. Bydd angen i chi gofrestru ar y llwyfan hwn i ateb ein harolygon a gynhelir ar y wefan hon. (Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru).

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Cwblhau'r Ffurflen
    Rhannu Polisi Ystadau Fferm - Arolwg ar Facebook Rhannu Polisi Ystadau Fferm - Arolwg Ar Twitter Rhannu Polisi Ystadau Fferm - Arolwg Ar LinkedIn E-bost Polisi Ystadau Fferm - Arolwg dolen
Cyhoeddi: 01 Sep 2025, 09:00 AC