Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys 2025-2030

Rhannu Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys 2025-2030 ar Facebook Rhannu Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys 2025-2030 Ar Twitter Rhannu Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys 2025-2030 Ar LinkedIn E-bost Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys 2025-2030 dolen

Fel sir rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu wrth gynyddu'r swm rydym yn ei ailgylchu. Rhwng 2013/14 a 2022/23, cynyddodd ein cyfradd ailgylchu o 52.5% i'w lefel bresennol o 68.1%, a gostyngodd cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd dros 24,000 tunnell yn ystod yr un cyfnod.

Er gwaethaf cynnydd da, rhaid i ni gymryd camau i wneud mwy. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rydym yn parhau i wynebu nifer o heriau, gan gynnwys ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd byd-eang, a'r angen i leihau ein heffeithiau ar yr amgylchedd fel ei fod yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn gweithio'n effeithlon o fewn ein hadnoddau ariannol, yn parhau i gyrraedd targedau ailgylchu statudol ac yn cyd-fynd â datganiad argyfwng hinsawdd y cyngor i leihau ein hallyriadau i sero net erbyn 2030 a chyfyngu ar ein heffaith ar yr amgylchedd naturiol.

Er ein bod yn darparu gwasanaeth ailgylchu cynhwysfawr, ar hyn o bryd mae 45% o'r deunyddiau sy'n cael eu rhoi yn y biniau olwynion du a sachau porffor yn eitemau y gellid eu hailgylchu gan ddefnyddio ein gwasanaethau presennol. Nid gwastraff adnoddau yn unig yw hyn a'r ynni cysylltiedig a ddefnyddiwyd i'w creu ond byddai ailgylchu'r eitemau hyn yn cefnogi ein hymdrechion i symud at ddull economi gylchol gynaliadwy, cynyddu ein cyfradd ailgylchu y tu hwnt i'r targed statudol o 70% ac arbed ar gostau adfer a gwaredu diangen.

Fel rhan o'r dull gweithredu ar draws y cyngor a elwir yn Powys Gynaliadwy, ein nod yw darparu gwasanaethau o ansawdd ar gyfer ein cymunedau y mae angen iddynt fod yn fforddiadwy i breswylwyr (drwy dalu'r dreth gyngor), a fforddiadwy i ni eu darparu a'u cynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae angen darparu gwasanaethau hefyd mewn ffordd sy'n helpu i leihau ein hallyriadau carbon i sero net erbyn 2030.

Mae'r Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy yn ystyried yr holl heriau hyn ac yn nodi ein nodau ar gyfer cefnogi trigolion, busnesau a'r gymuned ehangach i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd lleol, lleihau eu hôl troed carbon a helpu Powys i symud tuag at economi gylchol gynaliadwy.

Wrth ddatblygu strategaethau, mae'n bwysig cynnwys ein rhanddeiliaid yn y broses. Bydd yr ymarfer ymgysylltu cyhoeddus deuddeg wythnos hwn yn ceisio barn trigolion, aelodau, sefydliadau partner a gweithleoedd ar y polisi drafft.

Rydym yn arbennig o awyddus i ddarganfod sut mae pobl yn lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu eu gwastraff ar hyn o bryd. Hoffem wybod hefyd sut yr hoffai pobl gael eu cefnogi gan y cyngor i leihau mwy o'u gwastraff, ailddefnyddio mwy o eitemau ac ailgylchu mwy yn y dyfodol. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn darganfod a yw pobl yn cytuno â blaenoriaethau'r strategaeth ddrafft ac a oes unrhyw beth arall y gallai pobl ei awgrymu i'n helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol, lleihau ein hôl troed carbon, symud tuag at economi gylchol gynaliadwy a sicrhau dyfodol gwyrddach i bawb.

Bydd lleisiau ein rhanddeiliaid yn helpu i sicrhau bod y strategaeth yn glir, yn gynhwysfawr, yn ymarferol ac yn cael ei chefnogi gan y gymuned ac yn dylanwadu ar benderfyniadau a darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol ledled Powys.

Yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu, bydd y Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy ddrafft yn cael ei diwygio'n unol â hynny a'i dychwelyd i'r Cabinet i'w chymeradwyo.

Dweud eich dweud

Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein harolwg isod drwy glicio ar 'LLENWI'R FFURFLEN'.

Mae fersiynau papur o'r ymgynghoriad a'r ffurflen hon ar gael i'w lawrlwytho a'u hargraffu yma neu gallwch gasglu un o lyfrgelloedd ledled Powys, gofynnwch i aelod o staff am gopi.

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 4 Ebrill 2025.

  • Rydym wedi newid y ffordd y mae ein hymgynghoriadau'n gweithio yn ddiweddar sy'n golygu mai dim ond un ymateb y gallwn ei dderbyn fesul pob unigolyn. Bydd angen i chi gofrestru ar y llwyfan hwn i ateb ein harolygon. Cofrestrwch yma i ymuno â'n cymuned: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/register?next=/hub-page/cyngor-sir-powys

    Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Llenwi'r Ffurflen
    Rhannu Arolwg ar Facebook Rhannu Arolwg Ar Twitter Rhannu Arolwg Ar LinkedIn E-bost Arolwg dolen
Diweddaru: 14 Jan 2025, 07:13 PM