Newyddion Diweddaraf

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

Cafodd Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd newydd, sy’n gosod gweledigaeth ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd ym Mhowys, ei chyhoeddi, dywed y cyngor sir.

Cynhaliodd y cyngor 12 wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth ddrafft tuag at ddiwedd 2022.

Gwnaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyried yr adroddiad ymgynghori a diweddariad o’r ddogfen strategaeth, a rhoi caniatâd iddo gael ei gyhoeddi’r mis diwethaf (Dydd Gwener 17 Chwefror).

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Agored a Thryloyw: “Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd adborth am y strategaeth ddrafft yn ystod y cyfnod ymgynghori.

“Mae’r strategaeth yn dolennu’n daclus â’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol a bydd yn cael ei defnyddio i’n harwain at ddiwylliant fwy cydweithredol o ran cyfranogi ac ymgysylltu â’n cymunedau lleol, gan greu Powys Gryfach, Decach, Wyrddach y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni.”

Cafodd y strategaeth, sef gofyniad cyfreithiol gan bob awdurdod lleol, ei pharatoi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn nodi sut fydd y cyngor yn annog pobl leol i gyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau.

I ddarllen y strategaeth ewch i: Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 2023-27

Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

Mae'r ymgynghoriad wedi cau

<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>