Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus Cyngor Sir Powys
Mae'r ymgynghoriad wedi cau
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae gofyn i bob awdurdod lleol lunio Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus sy’n nodi sut y byddant yn annog pobl leol i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.
Rydym yn credu y dylai’r holl randdeiliaid, trigolion, partneriaid, a busnesau gael cyfleoedd i gymryd rhan ac ymgysylltu, fel y gall eu lleisiau ddylanwadu ar benderfyniadau a darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol ar draws Powys. Mae ein strategaeth ddrafft yn dynodi’r weledigaeth ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf.
Fel rhan o’r broses ddatblygu, hoffem gael eich barn ar y strategaeth cyfranogiad cyhoeddus drafft (sydd wedi cael ei llunio yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru).
Darllenwch a lawr lwytho ein strategaeth ddrafft Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus (Drafft).pdf
Mae fersiwn hawdd ei darllen ar gael yma hefyd Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus Drafft - Hawdd ei Ddeall.pdf
Gallwch adael eich adborth ar-lein trwy ein harolwg isod neu lawr lwytho a llenwi’r ffurflen adborth gan ei hanfon dros e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk neu ei gadael yn eich llyfrgell leol.
Mae'r ymgynghoriad wedi cau