Strategaeth Hinsawdd

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded

Diolch am eich diddordeb yng ngweledigaeth a strategaeth hinsawdd y Cyngor. Yn aml mae’r atebion i newid yn yr hinsawdd yn gofyn am weithredu gan lawer. Hoffem ni fel cyngor chwarae ein rhan, hoffem fod yn gyfrifol yn fyd-eang, a mynd ati mewn modd integredig i ddatblygu ar weithrediadau ar lefelau gwahanol a helpu i greu Powys sy’n wydn o ran hinsawdd.

Mae Newid Hinsawdd yn agos at adre i lawer ohonom ym Mhowys. Rydym eisoes yn gweld digwyddiadau tywydd eithafol, yn enwedig llifogydd efallai. Mae ein hadferiad o Covid yn rhoi cyfle i ni geisio ailgodi’n gryfach a sicrhau adferiad gwyrdd. Mae gan sector cyhoeddus Cymru uchelgais nid yn unig i fod yn sero-net erbyn 2050, fel y mae’n rhaid i’r economi gyfan fod, neu erbyn 2040 fel llawer yn y sector preifat, ond cymryd cyfrifoldeb byd-eang o ddifrif a bod yn sero-net erbyn 2030. Mae’n nod uchelgeisiol ond am reswm da.

Gall gweithredu ar newid hinsawdd achub bywydau a rhaid i ni felly fynd i’r afael â hyn o ddwy ochr. Drwy leihau (lliniaru) ein heffaith ar yr hinsawdd ac felly ar y difrod a wnawn, yn ogystal ag ymateb (addasu) i risgiau newid hinsawdd ac adeiladu i sicrhau sadrwydd a gwydnwch o ran hinsawdd.

Rydym eisoes wedi bod ar siwrne hir gan wneud newidiadau i gynorthwyo gweithredu ar yr hinsawdd ynghyd â darparu nifer o brosiectau sydd eisoes wedi lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Yn fwy diweddar ym Medi 2020, fe wnaeth Cyngor Sir Powys ddatgan argyfwng hinsawdd a chytunodd y Cyngor i greu cynnig trawsbleidiol ar newid hinsawdd. Mae’r ddogfen hon yn adeiladu ar y datganiad hwn gan ddangos bod y gweithredu ar newid hinsawdd yn cwrdd â phob un o’r pedwar piler yn nogfen Gweledigaeth 2025 a darparu a chryfhau ein polisïau a dulliau gweithredu presennol.

Drwy’r Strategaeth hon gobeithiwn wneud ein rhan mewn goresgyn newid hinsawdd drwy hwyluso newid a dangos arweinyddiaeth ddinesig ar draws y Sir fydd yn arwain y ffordd i eraill. Rydym hefyd yn cydnabod nad ni’n unig sy’n gyfrifol am wneud i hyn ddigwydd ac rydym yn awyddus i weithio â’n holl randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod digon o weithredu a chynnydd yn cael ei wneud

Mae’r ymarfer ymgysylltu hwn yn gofyn ychydig o gwestiynau cyffredinol i chi am eich diddordeb mewn newid yn yr hinsawdd. Hoffem i chi ystyried eich barn ar bob adran o’r strategaeth newydd a roi sylwadau mwy cyffredinol.

Gallwch weld y strategaeth yma Strategaeth a Gweledigaeth Hinsawdd y Barcud Coch PDF

I lenwi’r strategaeth, cliciwch ar y botwm ‘dweud eich dweud’ isod.

Mae’r arolwg yn cau hanner nos ar 7 Ionawr.

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.