Ymgynghoriad ar Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae etholiadau Cynghorau Sir lleol yng Nghymru yn defnyddio'r system cyntaf i'r felin. Yma ym Mhowys, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o symud i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a newid y ffordd rydych chi'n pleidleisio yn ein hetholiadau Cyngor Sir.
Er mwyn i ni ystyried y newid hoffem wybod beth yw eich barn.
Bydd ein cynghorwyr yn defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu a ddylid mabwysiadu'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer ein hetholiadau lleol ai peidio, o 2027 ymlaen, erbyn y dyddiad cau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef 15 Tachwedd 2024.
System cyntaf i'r felin
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, rydym yn defnyddio'r system cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr lleol, sy'n gofalu am faterion sy'n benodol i dy ardal leol.
Sut mae pobl yn pleidleisio?
Pan fyddi yn pleidleisio mewn etholiad sy'n defnyddio cyntaf i'r felin, byddi yn cael un papur pleidleisio.
Bydd y cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio yn dweud wrthyt ti faint o bobl y cei bleidleisio drostynt. Efallai y byddwch yn gallu pleidleisio dros fwy nag un person gan y bydd mwy nag un person yn eich cynrychioli chi, a gofynnir i chi roi X wrth ymyl enw(au) yr ymgeisydd(wyr) yr hoffech bleidleisio drostynt.
Sut mae ymgeiswyr yn cael eu hethol?
Unwaith y bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif mae'r ymgeiswyr(ymgeiswyr) sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau'n cael eu hethol.
System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy
Yng Nghymru, Rydym yn gallu ddefnyddio system o'r enw Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy i ethol cynghorwyr sir lleol. Nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi symud i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) eto, ond mae Cynghorau Sir Gwynedd a Cheredigion hefyd yn ystyried y newid.
Mae'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol sydd wedi'i chynllunio i ganiatáu mwy o ddewis i bleidleiswyr nag un ymgeisydd yn unig.
Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o drigolion Powys wedi arfer cael un Cynghorydd yn cynrychioli eu ward, gan mai dim ond wyth o'n 60 ward sydd â mwy nag un Cynghorydd ar hyn o bryd.
Pe bawn yn cyflwyno'r system STV, byddai dal i fod 68 o Gynghorwyr gennym ond yn hytrach nag un Cynghorydd yn cynrychioli pawb mewn ward, byddai gennym wardiau mwy gyda rhwng tri a chwech o Gynghorwyr yn cynrychioli pob un.
Llywodraeth Cymru fyddai'n penderfynu ar nifer y Cynghorwyr ym mhob ward gydag argymhellion gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Sut mae'n gweithio?
Gwyliwch y fideo isod gan y Comisiwn Etholiadol, yn esbonio sut mae'r system bleidleisio sengl drosglwyddadwy yn gweithio:
Beth yw’r Manteision ac Anfanteision ar gyfer y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy?
![]() | ![]() |
|
|
Dweud eich dweud
Gallwch adael eich adborth ar-lein drwy ein ffurflen ymgynghori ar-lein isod.
Mae fersiynau papur o'r ymgynghoriad a'r ffurflen hon ar gael i'w lawrlwytho a'u hargraffu yma (Gan gynnwys Hawdd i'w Ddarllen) neu gallwch gasglu un o lyfrgelloedd ledled Powys, gofynnwch i aelod o staff am gopi.
Y dyddiad cau i roi eich adborth i ni yw dydd Llun 30 Medi 2024.