Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Ymgynghoriad ar Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar FacebookRhannu Ymgynghoriad ar Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy Ar TwitterRhannu Ymgynghoriad ar Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy Ar LinkedInE-bost Ymgynghoriad ar Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy dolen
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae etholiadau Cynghorau Sir lleol yng Nghymru yn defnyddio'r system cyntaf i'r felin. Yma ym Mhowys, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o symud i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a newid y ffordd rydych chi'n pleidleisio yn ein hetholiadau Cyngor Sir.
Er mwyn i ni ystyried y newid hoffem wybod beth yw eich barn.
Bydd ein cynghorwyr yn defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu a ddylid mabwysiadu'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer ein hetholiadau lleol ai peidio, o 2027 ymlaen, erbyn y dyddiad cau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef 15 Tachwedd 2024.
System cyntaf i'r felin
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, rydym yn defnyddio'r system cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr lleol, sy'n gofalu am faterion sy'n benodol i dy ardal leol.
Sut mae pobl yn pleidleisio?
Pan fyddi yn pleidleisio mewn etholiad sy'n defnyddio cyntaf i'r felin, byddi yn cael un papur pleidleisio.
Bydd y cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio yn dweud wrthyt ti faint o bobl y cei bleidleisio drostynt. Efallai y byddwch yn gallu pleidleisio dros fwy nag un person gan y bydd mwy nag un person yn eich cynrychioli chi, a gofynnir i chi roi X wrth ymyl enw(au) yr ymgeisydd(wyr) yr hoffech bleidleisio drostynt.
Sut mae ymgeiswyr yn cael eu hethol?
Unwaith y bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif mae'r ymgeiswyr(ymgeiswyr) sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau'n cael eu hethol.
System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy
Yng Nghymru, Rydym yn gallu ddefnyddio system o'r enw Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy i ethol cynghorwyr sir lleol. Nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi symud i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) eto, ond mae Cynghorau Sir Gwynedd a Cheredigion hefyd yn ystyried y newid.
Mae'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol sydd wedi'i chynllunio i ganiatáu mwy o ddewis i bleidleiswyr nag un ymgeisydd yn unig.
Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o drigolion Powys wedi arfer cael un Cynghorydd yn cynrychioli eu ward, gan mai dim ond wyth o'n 60 ward sydd â mwy nag un Cynghorydd ar hyn o bryd.
Pe bawn yn cyflwyno'r system STV, byddai dal i fod 68 o Gynghorwyr gennym ond yn hytrach nag un Cynghorydd yn cynrychioli pawb mewn ward, byddai gennym wardiau mwy gyda rhwng tri a chwech o Gynghorwyr yn cynrychioli pob un.
Llywodraeth Cymru fyddai'n penderfynu ar nifer y Cynghorwyr ym mhob ward gydag argymhellion gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Beth yw’r Manteision ac Anfanteision ar gyfer y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy?
Nod STV yw sicrhau cynrychiolaeth gyfrannol. Mae hyn yn golygu bod pleidiau neu ymgeiswyr yn derbyn seddi yn gymesur â nifer y pleidleisiau y maent yn eu derbyn. Gall hyn arwain at adlewyrchiad mwy cywir o ddewisiadau'r pleidleiswyr o ran cyfansoddiad y Cyngor.
Mae'r gallu i roi ymgeiswyr yn nhrefn eich dewis ar eich papur pleidleisio yn golygu bod eich pleidleisiau’n fwy tebygol o gyfrannu at ethol ymgeisydd ry’ch chi'n ei gefnogi. Hyd yn oed os nad yw'ch ymgeisydd dewis cyntaf yn ennill, gellir trosglwyddo'ch pleidlais i'ch dewis nesaf. Bydd hyn yn lleihau nifer y pleidleisiau sy'n cael eu gwastraffu, lle nad yw pleidleisiau dros ymgeiswyr sy’n colli yn cyfrannu at ganlyniad yr etholiad.
Mae STV yn annog ymgeiswyr i apelio at ystod ehangach o bleidleiswyr gan y bydd angen iddynt gasglu pleidleisiau ail ddewis a dewisiadau dilynol. Gall hyn feithrin y datblygiad o gydweithrediad a chydweithio ymhlith gwahanol bleidiau ac ymgeiswyr.
Gall STV hefyd wella cynrychiolaeth grwpiau llai/lleiafrifol.
Mae STV yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr o fewn plaid, gan ganiatáu i chi bleidleisio dros unigolion yn hytrach na phleidiau yn unig.
Gall y system STV fod yn anodd ei deall a gallwn helpu gyda hyn trwy ddarparu gwybodaeth a deunyddiau i bleidleiswyr.
Gallai cymhlethdod y system STV ddiflasu rhai pleidleiswyr, gan arwain at deimlad o ddatgysylltiad o'r broses etholiadol os nad ydynt yn deall yn gyfan gwbl sut mae eu pleidleisiau'n cael eu cyfrif.
Mae potensial am gynnydd mewn papurau pleidleisio wedi'u difetha.
Gall wardiau gyda nifer o gynghorwyr arwain at bapurau pleidleisio mwy o faint, ac mae'n ymddangos y gallai'r drefn y mae ymgeiswyr yn ymddangos fod yn broblem os ydynt wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor yn hytrach na defnyddio system sy’n gosod y drefn ar hap, a allai fod yn ddrud.
Bydd y broses gyfrif fwy cymhleth yn golygu y byddai’r cyfrif yn cymryd o leiaf dau ddiwrnod a thrwy hynny dyblu cost y cyfrif. Gallai cyfrifiadau cychwynnol o dan system STV fod yn hirach wrth i staff sy’n cyfrif ddod i arfer â'r broses newydd.
Gall y broses gyfrif hirach olygu bod yna oedi cyn cyhoeddi canlyniadau etholiad o'i gymharu â systemau pleidleisio eraill.
Mae fersiynau papur o'r ymgynghoriad a'r ffurflen hon ar gaeli'w lawrlwytho a'u hargraffu yma (Gan gynnwys Hawdd i'w Ddarllen)neu gallwch gasglu un o lyfrgelloedd ledled Powys, gofynnwch i aelod o staff am gopi.
Y dyddiad cau i roi eich adborth i ni yw dydd Llun 30 Medi 2024.

Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Mae'r arolwg hwn yn ddienw. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.
Rhannu Ffurflen Ymgynghoriad Ar-lein ar FacebookRhannu Ffurflen Ymgynghoriad Ar-lein Ar TwitterRhannu Ffurflen Ymgynghoriad Ar-lein Ar LinkedInE-bost Ffurflen Ymgynghoriad Ar-lein dolen
Mae fersiynau papur o'r ymgynghoriad Hawdd i'w Ddarllen a ffurflen hon ar gaeli'w lawrlwytho a'u hargraffu ymaneu gallwch gasglu un o lyfrgelloedd ledled Powys, gofynnwch i aelod o staff am gopi.
Rhannu Ffurflen Ymgynghoriad Ar-Lein - Hawdd ei Ddarllen ar FacebookRhannu Ffurflen Ymgynghoriad Ar-Lein - Hawdd ei Ddarllen Ar TwitterRhannu Ffurflen Ymgynghoriad Ar-Lein - Hawdd ei Ddarllen Ar LinkedInE-bost Ffurflen Ymgynghoriad Ar-Lein - Hawdd ei Ddarllen dolen