Newyddion Diweddaraf

Faint o bobl a ymatebodd i'r ymgysylltiad?

1,270

Faint o bobl ymwelodd â'r dudalen hon?

2,850

Beth yw'r newyddion diweddaraf?

Gwrthod System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Mae'r newid i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a newid i'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio yn etholiadau lleol Cyngor Sir Powys wedi ei wrthod.

Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 12 Awst a 30 Medi, roedd 60.5% o'r 1270 o ymatebwyr o blaid mabwysiadu'r system STV ar gyfer etholiadau cynghorau sir lleol yn y dyfodol, gyda 27.6% yn ffafrio'r system cyntaf-heibio'r-postyn presennol.

Er mwyn i'r newid gael ei gymeradwyo gan y cyngor llawn, roedd angen mwyafrif o 2/3 (46 allan o 68 pleidlais). Yn dilyn y ddadl ddoe (17 Hydref), pleidleisiodd 21 o'r 68 o gynghorwyr o blaid y newid, oedd yn llai na'r nifer sydd ei angen i symud i'r system bleidleisio amgen.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: "Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, roedd eich adborth yn rhan bwysig o'n proses gwneud penderfyniadau.

"Yn dilyn ein dadl lawn ar y mater yn y cyngor, rydym wedi penderfynu na allwn ni fel cyngor symud i'r system bleidleisio newydd ar gyfer etholiadau ein Cyngor Sir lleol. Dangosodd y bleidlais yn glir nad yw mwyafrif y Cynghorwyr yn meddwl fod y newid hwn y peth cywir i'w wneud ar hyn o bryd."

Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

<span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>