Ymgynghoriad ar Goed Stryd Machynlleth

Rhannu Ymgynghoriad ar Goed Stryd Machynlleth ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad ar Goed Stryd Machynlleth Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad ar Goed Stryd Machynlleth Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad ar Goed Stryd Machynlleth dolen

Consultation has concluded

Mae ymarfer ymgysylltu i fesur y farn leol am gynigion i wella’r amodau o ran y coed yn y stryd ar hyd Heol Maengwyn (A489), Heol Penrallt a Heol Pentrehedyn (A487), a phlannu 12 coeden arall yng nghanol tref Machynlleth, ar agor erbyn hyn tan 16 Medi 2022.

Yn y 1980au, plannwyd deg ar hugain o goed stryd ar hyd ffyrdd canol y dref, o fewn yr ardal gadwraeth. Fodd bynnag, mae diffyg rhagwelediad a'r amodau trefol anffafriol yn golygu nad oes gan lawer o'r coed gwreiddiol le digonol na'r amodau cywir i ffynnu. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi arwain at goed ansefydlog neu rai wedi'u tyfu'n wael, canghennau meirwon, gwreiddiau'n codi palmentydd gan beryglu adeiladau cyfagos a choed mewn mannau gwael yn achosi rhwystrau.

Gan fod cefnffyrdd (yr A487 a'r A489) yn brysur, mae archwiliadau diogelwch rheolaidd y coed hyn eisoes wedi arwain yn anochel at ddileu rhai o'r enghreifftiau gwaethaf. Mae archwiliadau pellach wedi nodi saith coeden arall y bydd angen eu torri'r gaeaf hwn.

Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) a Llywodraeth Cymru yn cynnig, unwaith y bydd y coed ychwanegol hyn wedi’u cwympo, bod cynllun ailblannu newydd yn cael ei fabwysiadu i wella canol tref Machynlleth a darparu amodau plannu gwell ar gyfer coed newydd yn ogystal â chynyddu nifer y coed stryd o'r 30 gwreiddiol i 42.

Gall colli coed fod yn fater emosiynol ac er ei bod yn ymddangos yn newyddion trist ar y dechrau, mae'n gyfle delfrydol i wella amodau'r coed sydd ar ôl a chyfle i ailblannu coed yn lle’r rhai a gwympwyd mewn ffordd fwy priodol - gan sicrhau ein bod yn dewis y lleoliadau, y rhywogaethau coed a'r dull cywir o blannu i warantu eu goroesiad a'u presenoldeb ym Machynlleth am flynyddoedd i ddod.

Rydym yn ymwybodol o fanteisio niferus plannu trefol. Mae coed nid yn unig yn gwella ein hamgylcheddau drwy edrych yn brydferth, ond gallant hefyd chwarae rhan hanfodol wrth frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd drwy ddarparu hafan ar gyfer bywyd gwyllt, cynnig cysgod, amsugno dŵr pan fydd gormod ohono, a gwella ansawdd aer.

Ar ôl cael eu plannu ynardal gadwraeth y dref, mae yna rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd lle'r coed sydd eisoes wedi’u cwympo, neu sydd ar fin cael eu cwympo. Ond rydym yn awyddus i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn briodol fel mod i genedlaethau'r dyfodol elwa ar hyn a mwynhau'r coed am flynyddoedd lawer.

Gwahoddir pobl leol i rannu eu syniadau ar y cynigion i gymryd lle'r hen goed a phlannu 12 coeden ychwanegol yng nghanol tref Machynlleth. Mae modd gweld y cynigion ar-lein neu wyneb yn wyneb yn Y Plas Machynlleth, Llyfrgell Machynlleth, Caffi Alys a'r Clwb Bowlio. Bydd sesiwn galw heibio hefyd yn y Clwb Bowlio ddydd Llun 5 Medi am 3-7:30pm, gyda chyflwyniad am 6pm.

  • Newyddion Diweddaraf

    Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

    Mae'r gwaith paratoi ar gyfer coed newydd ar strydoedd Machynlleth ar gychwyn

    Bydd y gwaith paratoi i blannu 27 o goed newydd yn yr Hydref, ar strydoedd yng nghanol tref Machynlleth yn dechrau'r wythnos hon.

    Yn dilyn ymarfer ymgysylltu'r llynedd, a chael gwared yn sgil hynny o rai o'r coed presennol, bydd y gwaith i ddechrau gwella cyflwr y coed sydd yno'n barod a'r coed newydd fydd yn cael eu plannu ar hyd Heol Maengwyn (A489), Stryd Penrallt a Stryd Pentrehedyn (A487) yn dechrau'r wythnos hon (yr wythnos yn cychwyn 6ed Mawrth).

    Bydd y gwaith yn golygu gwella wyneb y strydoedd ac amodau plannu'r coed sy'n weddill, yn ogystal â chreu tyllau plannu tanddaearol ar gyfer y 27 o goed newydd fydd yn cael eu plannu yn yr Hydref. Bydd mwyafrif y gwaith yn digwydd ar neu o gwmpas y palmantau a'r ardaloedd plannu, a chaiff ei gyflawni fesul ardal fach, er mwyn lleihau cymaint â phosibl tarfu ar gerddwyr ac ati. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar fynediad at y siopau.

    "Gall colli coed fod yn brofiad emosiynol, ond trwy'r ymarfer ymgysylltu, rydym wedi llwyddo i gyfuno barn broffesiynol arfaethedig a sylwadau a dyheadau'r gymuned leol er mwyn llunio cynllun gweithredu cadarn, sy'n addas at y dyfodol mewn perthynas â choed strydoedd yng nghanol tref Machynlleth," yn ôl y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

    "Mae'r broses o gael gwared ar rai o'r coed a ddifrodwyd / mewn safleoedd annoeth, wedi rhoi cyfle delfrydol inni wella cyflwr y coed sy'n weddill, a chyfle i ail-blannu coed a gwympwyd mewn ffordd fwy priodol - gan sicrhau ein bod yn dewis y lleoliadau cywir, y rhywogaethau coed iawn a dull plannu i sicrhau y byddant yn goroesi, ac y byddant yn bresenoldeb yng nghanol Machynlleth am flynyddoedd i ddod.

    "Rydym yn ymwybodol o'r buddion niferus sy'n gysylltiedig â phlannu coed mewn trefi. Nid yn unig maent yn gwella ein hamgylchfyd trwy edrych yn hardd, ond maent hefyd yn gallu chwarae rôl hollbwysig o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy'n ein hwynebu, trwy fod yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt, cynnig cysgod, amsugno dŵr dros ben, a gwella ansawdd yr aer.

    "Edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddechrau'r gwaith yma, a diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn am eu hamser a'u mewnbwn. Unwaith y bydd y gwaith o wella wyneb y strydoedd a'r ardaloedd plannu yn ystod y cam hwn o'r gwaith wedi gorffen, bydd y cam nesaf y mae pawb yn edrych ymlaen ato, sef plannu'r coed newydd, yn digwydd yn yr Hydref."