Cynnig i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynigion i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion. Mae'r cynigion fel a ganlyn:
- Gwneud newid rheoledig i newid cyfrwng y dysgu yn Ysgol Bro Caereinion i gyfrwng Cymraeg.
- Bydd hyn yn cael ei gyflwyno'n raddol, flwyddyn wrth flwyddyn, gan ddechrau gyda Blwyddyn Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025.
Mae dogfen ymgynghori sy'n rhoi mwy o wybodaeth am y cynigion ar gael ar wefan y Cyngor yn https://cy.powys.gov.uk/article/14817/Ysgol-Bro-Caereinion. Mae'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni am eich barn ar gynnig y Cyngor. Mae modd llenwi'r ffurflen ymateb ar-lein hefyd. Mae dolen i'r ffurflen ar-lein ar gael drwy ddilyn y ddolen uchod.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw'r 7 Rhagfyr 2023. Rhaid derbyn yr holl ymatebion erbyn y dyddiad hwn.