Mae cwcis yn ein helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwefan fel y gallwn roi'r profiad gorau i chi pan fyddwch ar ein safle. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Cwcis cyfryngau cymdeithasol:
Rydym yn defnyddio cwcis cyfryngau cymdeithasol o Facebook, Twitter a Google i redeg teclynnau, ymgorffori fideos, swyddi, sylwadau a nôl gwybodaeth proffil.
Rhannu Cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru ar FacebookRhannu Cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru Ar TwitterRhannu Cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru Ar LinkedInE-bost Cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru dolen
Consultation has concluded
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Cefndir
Agorodd Ysgol Calon Cymru ym mis Medi 2018, yn dilyn uno Ysgol Uwchradd Llandrindod ac Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt. Mae'r ysgol yn darparu addysg uwchradd i ddisgyblion 11 - 18 oed ar draws dau gampws yn y ddwy dref.
Mae'r ysgol ar daith wella. Er bod llawer o gynnydd wedi’i wneud, daeth yn amlwg fod model dau safle’r ysgol yn cyfyngu ar ei gallu i barhau i dyfu a datblygu.
Yn 2020, datblygodd y Cyngor achos busnes a oedd yn edrych ar opsiynau ar gyfer Ysgol Calon Cymru yn y dyfodol. Nododd hwn y cynllun posibl a ganlyn:
Campws cyfrwng Saesneg newydd 11-18 yn Llandrindod; a hefyd
Campws cyfrwng Cymraeg pob oed (4-18) wedi'i ailfodelu yn Llanfair ym Muallt.
Mae'r Cyngor eisiau gwybod barn pobl ar y cynllun posibl cyn dechrau ar y broses gyfreithiol fyddai ei angen i wneud y newidiadau hyn.
Er bod prif ffocws yr ymarferiad hwn ar y cynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru yn y dyfodol, mae’n bosibl y byddai’r cynlluniau hyn hefyd yn effeithio ar rai ysgolion eraill, yn enwedig Ysgol GG Llanfair ym Muallt.
Gallwch adael i ni wybod eich barn am y cynllun posibl trwy lenwi'r holiadur hwn. Gallwch hefyd anfon eich barn atom yn ysgrifenedig at school.organisation@powys.gov.uk neu i'r Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 LG.
Yr Holiadur
Rhennir yr holiadur yn adrannau, sy'n canolbwyntio ar wahanol elfennau o'r cynllun posibl ar gyfer Ysgol Calon Cymru.
Gan fod y cynllun posibl yn cynnwys newidiadau i ddarpariaeth addysg Gymraeg, mae yna adran hefyd am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Canol a De Powys.
Nid oes rhaid i chi ateb pob adran - atebwch yr adrannau sydd o ddiddordeb i chi.
Rhaid anfon pob holiadur erbyn 26 Ionawr 2022.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd y Cyngor yn paratoi adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau’r ymarfer hwn. Cyhoeddir hwn yn gynnar yn 2022.
Yna bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor. Os bydd y Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynlluniau, cynhelir ymgynghoriad ffurfiol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymarfer hwn, gallwch gysylltu â’r Tîm Trawsnewid Addysg trwy e-bostio school.organisation@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826618.