Cynnig i gau Ysgol G.G. Dyffryn Irfon
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol G.G. Dyffryn Irfon. Mae'r cynnig fel a ganlyn:
- Cau Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon o 31 Awst 2024, gyda disgyblion i drosglwyddo i'w hysgolion eraill agosaf.
Mae dogfen ymgynghori sy'n rhoi mwy o wybodaeth am y cynigion ar gael ar wefan y Cyngor yn https://cy.powys.gov.uk/article/14959/Ysgol-G.g.-Dyffryn-Irfon. Mae'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni am eich barn ar gynnig y Cyngor.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 7 Rhagfyr 2023. Rhaid derbyn pob ymateb erbyn y dyddiad hwn.