Ystradgynlais – Gosod Wyneb Synthetig Awyr Agored Newydd

Rhannu Ystradgynlais – Gosod Wyneb Synthetig Awyr Agored Newydd ar Facebook Rhannu Ystradgynlais – Gosod Wyneb Synthetig Awyr Agored Newydd Ar Twitter Rhannu Ystradgynlais – Gosod Wyneb Synthetig Awyr Agored Newydd Ar LinkedIn E-bost Ystradgynlais – Gosod Wyneb Synthetig Awyr Agored Newydd dolen

Bydd Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure yn adnewyddu’r carped ar y maes chwarae awyr agored synthetig yn Ystradgynlais. Hoffem ymgysylltu â chlybiau, rhanddeiliaid a defnyddwyr arfaethedig ynghylch adnewyddu’r arwyneb.

Rydym ni’n arwain arolwg a fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch y math o arwyneb a fydd yn cymryd lle’r carped presennol. Y nod yw i’r cyfleuster wneud y mwyaf o gyfleoedd a diwallu gofynion dysgwyr a chlybiau cymunedol wrth iddynt hefyd ddarparu cyfleoedd hamdden i’r gymuned leol ac ardaloedd amgylchynol.

Bydd yn ofynnol i’r cyfleustra fod ar gael ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon, ac wrth gadw hynny mewn cof, mae’r opsiynau ar gyfer adnewyddu’r carped fel a ganlyn:-

  • Astroturf â Haenen o Dywod – ardal aml-chwaraeon Gen 2:

Addas i hoci, tenis, pêl-rwyd, hyfforddi pêl-droed, pêl-droed hamdden, gemau pêl-droed wedi addasu, Rygbi Tag a Rygbi Cyffwrdd/Sgiliau Llawio, hyfforddiant athletau, gwersi AG cyffredinol ac aml-chwaraeon.

  • 3G Peil Byr (40mm):

Addas ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed (gyda bod Meini Prawf Rheng Tir FAW yn caniatáu) a hyfforddiant, hoci cyfranogol (mae rhai ysgolion ym Mhowys yn defnyddio’r arwyneb hwn i wersi hoci ar hyn o bryd), Rygbi Tag a Rygbi Cyffwrdd / Sgiliau Llawio, gwersi AG cyffredinol ac aml-chwaraeon.

Ffynonellau a ddefnyddir i benderfynu ar opsiynau:

  • Selecting the Right Artificial Surface (Sport England)
  • Cyfarwyddyd Dylunio Maes Chwarae FIH Sports Pitch Design Guidance

Dewch i ddweud eich dweud, cliciwch ar y ddolen isod i gwblhau’r arolwg. Y dyddiad cau yw dydd Sul 16 Gorfennaf.

  • Mae'r arolwg ar gau.

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Rhannu Arolwg ar Facebook Rhannu Arolwg Ar Twitter Rhannu Arolwg Ar LinkedIn E-bost Arolwg dolen