Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau
Consultation has concluded
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gyfeiriad strategol teithio ar gyfer sgiliau gan wneud argymhellion ar feysydd o dwf neu ddirywiad, yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac ymgysylltu cryf â gweithwyr a rhanddeiliaid. Mae pedair Partneriaeth Sgil Rhanbarthol (PSRh) yn gweithredu ledled rhanbarthau Cymru (Gogledd, Canolbarth, De-orllewin, a De-ddwyrain). Gorchwyl bob un yw cyflawni amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau. Yn 2019, lansiodd y PSRh Gynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd sydd wedi cael eu defnyddio i siapio blaenoriaethau sgiliau i gyflogwyr ar draws rhanbarthau perthnasol a dylanwadu ar y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig drwy sectorau Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Ers 2019, cafwyd newid sylweddol i’r sgiliau sy’n ofynnol gan ddiwydiant i lywio eu busnesau yn eu blaen mewn byd ôl-bandemig. Mae’r cyfnod cythryblus dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu bod nifer o sgiliau newydd wedi cael eu dynodi fel gofyniad allweddol gan fusnesau. Felly, mae’n bwysicach nac erioed ein bod ni’n sicrhau fod pobl yn meithrin y sgiliau cywir mewn colegau, prifysgolion ac â darparwyr dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau).
Gyda’r cyd-destun hwn yn gefndir, mae’r pedwar PSRh bellach yn datblygu Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd newydd (2022-25) sy’n debygol o gael eu lansio yn yr hydref. Gyda hyn mewn golwg, mae Arolwg Sgiliau PSRh yn rhan bwysig o’r broses, yn enwedig gan ein bod ni’n defnyddio gwybodaeth a gaiff ei chasglu drwy’r arolwg hwn, a’n hymygyslltiad ehangach â rhanddeiliaid, er mwyn helpu i lywio Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau. Wrth gwblhau arolygon, rydych yn cyfrannu at Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer 2022-2025. Bydd y cynlluniau hyn yn allweddol wrth lywio Llywodraeth Cymru o ran y tirlun sgiliau ledled rhanbarthau Cymru, a bydd hefyd yn helpu i gysylltu ariannu sgiliau â galwadau’r cyflogwr.
Fel PSRh, rydym yn eich annog i gwblhau’r arolygon. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w cwblhau. Gellir cwblhau arolygon yn ddi-enw, er y byddai rhoi gwybod i ni beth yw enw eich busnes / sefydliad, pan ofynnir, yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o gyd-destun eich ymateb ac ehangder daearyddol yr arolwg. Byddem ni hefyd wrth ein bodd pe gallech gylchredeg arolygon ar draws eich rhwydweithiau cysylltiedig.