Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau ar FacebookRhannu Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau Ar TwitterRhannu Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau Ar LinkedInE-bost Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau dolen
Consultation has concluded
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (PSRh) yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gyfeiriad strategol teithio ar gyfer sgiliau gan wneud argymhellion ar feysydd o dwf neu ddirywiad, yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac ymgysylltu cryf â gweithwyr a rhanddeiliaid. Mae pedair Partneriaeth Sgil Rhanbarthol (PSRh) yn gweithredu ledled rhanbarthau Cymru (Gogledd, Canolbarth, De-orllewin, a De-ddwyrain). Gorchwyl bob un yw cyflawni amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau. Yn 2019, lansiodd y PSRh Gynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd sydd wedi cael eu defnyddio i siapio blaenoriaethau sgiliau i gyflogwyr ar draws rhanbarthau perthnasol a dylanwadu ar y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig drwy sectorau Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Ers 2019, cafwyd newid sylweddol i’r sgiliau sy’n ofynnol gan ddiwydiant i lywio eu busnesau yn eu blaen mewn byd ôl-bandemig. Mae’r cyfnod cythryblus dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu bod nifer o sgiliau newydd wedi cael eu dynodi fel gofyniad allweddol gan fusnesau. Felly, mae’n bwysicach nac erioed ein bod ni’n sicrhau fod pobl yn meithrin y sgiliau cywir mewn colegau, prifysgolion ac â darparwyr dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau).
Gyda’r cyd-destun hwn yn gefndir, mae’r pedwar PSRh bellach yn datblygu Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd newydd (2022-25) sy’n debygol o gael eu lansio yn yr hydref. Gyda hyn mewn golwg, mae Arolwg Sgiliau PSRh yn rhan bwysig o’r broses, yn enwedig gan ein bod ni’n defnyddio gwybodaeth a gaiff ei chasglu drwy’r arolwg hwn, a’n hymygyslltiad ehangach â rhanddeiliaid, er mwyn helpu i lywio Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau. Wrth gwblhau arolygon, rydych yn cyfrannu at Gynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer 2022-2025. Bydd y cynlluniau hyn yn allweddol wrth lywio Llywodraeth Cymru o ran y tirlun sgiliau ledled rhanbarthau Cymru, a bydd hefyd yn helpu i gysylltu ariannu sgiliau â galwadau’r cyflogwr.
Fel PSRh, rydym yn eich annog i gwblhau’r arolygon. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w cwblhau. Gellir cwblhau arolygon yn ddi-enw, er y byddai rhoi gwybod i ni beth yw enw eich busnes / sefydliad, pan ofynnir, yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o gyd-destun eich ymateb ac ehangder daearyddol yr arolwg. Byddem ni hefyd wrth ein bodd pe gallech gylchredeg arolygon ar draws eich rhwydweithiau cysylltiedig.

Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.
Consultation has concluded
Rhannu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru - Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau ar FacebookRhannu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru - Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau Ar TwitterRhannu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru - Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau Ar LinkedInE-bost Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru - Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau dolen
Cwblhewch yr arolygon ar gyfer yr ardal ddaearyddol berthnasol drwy glicio ar y dolenni isod:
Gogledd Cymru (Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) – Caeodd yr arolwg yn ddiweddar a chafwyd cyfradd ymateb gadarnhaol iddo. Os na wnaethoch chi gael cyfle i ymateb i’r arolwg, ac am roi mewnbwn, cysylltwch: sianlloydroberts@uchelgaisgogledd.cymru