Arolwg Cyllideb 2022

Rhannu Arolwg Cyllideb 2022 ar Facebook Rhannu Arolwg Cyllideb 2022 Ar Twitter Rhannu Arolwg Cyllideb 2022 Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cyllideb 2022 dolen

Mae Cyngor Sir Powys (y cyngor) yn darparu ystod eang o wasanaethau i'n cymunedau, gan wario dros £545m bob blwyddyn ar wasanaethau statudol yn bennaf, y mae'n rhaid i ni eu darparu yn ôl y gyfraith. Mae cyfran fechan o'r gyllideb hefyd yn cael ei gwario ar wasanaethau rydyn ni'n dewis eu darparu.

Mae ein trigolion yn rhoi gwerth mawr ar ein gwasanaethau ac fel chi, mae'r Cyngor yn cael ei effeithio'n sylweddol gan yr hinsawdd economaidd bresennol, chwyddiant sy’n carlamu a chostau ynni cynyddol sydd wedi cael effaith sylweddol ar gynllunio ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a’r blynyddoedd i ddod.

Mae'r cynnydd yn golygu y bydd angen i ni ddod o hyd i fwy o arian ar gyfer y flwyddyn nesaf (2023-24) - er mwyn cynnal yr hyn rydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd neu leihau’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o arian ychwanegol a bydd yn rhaid i ni ystyried codi Treth y Cyngor i godi rhagor o arian - mae cynnydd o bump y cant yn nhreth y cyngor yn cael ei ystyried, ond ni fydd y rhain yn unig yn pontio'r bwlch yn ein cyllideb.

Er mwyn cydbwyso'r gyllideb y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid i ni gymryd allan dros £20m o gostau a hoffem eich mewnbwn i'r ffordd orau y gallwn wneud hyn. Bydd yn cael effaith ar y gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig ond drwy wneud pethau'n wahanol gallwn leihau ein costau.

Rydym angen i chi ein helpu i siapio sut olwg y gallai fod ar y cyngor, byddai’r cyngor yn llai, ond mae'n hanfodol ein bod yn blaenoriaethu'r gwasanaethau i'r rhai sydd angen ein cymorth mwyaf. Gall gwneud pethau'n wahanol ein helpu i ddefnyddio'r arian sydd gennym yn effeithiol.

Mae’n anodd hefyd ar yr economi genedlaethol, ac nid ydym yn disgwyl y bydd ein cyllid dros y blynyddoedd nesaf yn cwrdd â'n costau, felly bydd y newid yn digwydd dros nifer o flynyddoedd i ddod.

Helpwch ni i benderfynu ar sut olwg fydd ar y cyngor. Llenwch yr arolwg byr isod sy'n awgrymu'r newidiadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried.

Dyddiad cau yw 5 Ionawr.

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.