Arolwg Cynllun Llesiant Powys

Rhannu Arolwg Cynllun Llesiant Powys ar Facebook Rhannu Arolwg Cynllun Llesiant Powys Ar Twitter Rhannu Arolwg Cynllun Llesiant Powys Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cynllun Llesiant Powys dolen

Beth ydym yn ei wneud?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi creu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydweithio i greu gwell dyfodol i bobl Cymru.

Pwrpas PSB yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol yr ardal drwy gryfhau cydweithio ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Mae angen i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys lunio Cynllun Llesiant newydd er mwyn helpu trigolion Powys i gyflawni eu nodau llesiant. Er mwyn cyflawni ein huchelgais o "Bowys Deg, Iach a Chynaliadwy", rydym wedi gosod yr amcanion isod sef nodau craidd y cynllun:

  • Bydd pobl ym Mhowys yn byw bywydau hapus, iach, a diogel
  • Mae Powys yn sir o fannau a chymunedau cynaliadwy
  • Gwasanaeth Cyhoeddus gynyddol effeithiol i bobl Powys

Pwrpas yr ymgysylltu hwn yw gofyn am adborth cyffredinol ar amcanion y cynllun newydd a'r cynllun drafft Llesiant, er mwyn sicrhau ein bod yn blaenoriaethu'r pethau cywir fel Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus.

Pam ydym yn gwneud hynny?

Y nod cyffredinol yw defnyddio'r adborth a dderbyniwyd i benderfynu pa mor dda mae'r amcanion a'r cynllun drafft newydd wedi'u derbyn gan bobl Powys a beth efallai sydd angen ei newid er mwyn i ni sicrhau bod Llesiant yn cael ei greu ochr yn ochr â phobl Powys.

RHAN 1 - Cwestiynau demograffig: Mae’n gofyn cwestiynau rhagarweiniol i gael synnwyr o bwy/lle mae'r ymatebwr (er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn ymatebion gan gynifer o bobl Powys â phosib)

RHAN 2 – Cwestiynau Gwrthrychol y Cynllun Llesiant: Mae'n gofyn i'r ymatebwyr roi eu hadborth ar yr amcanion newydd a'r cynllun llesiant drafft, os ydynt yn credu y bydd yn effeithio'n gadarnhaol ar bobl Powys a gyda phwy maent yn credu y dylem fod yn gweithio gyda nhw i gyflawni'r amcanion.

Gallwch adael eich adborth ar-lein trwy ein harolwg isod neu lawrlwytho a chwblhau'r arolwg a'i e-bostio i powyspsb@powys.gov.uk neu ei adael yn eich llyfrgell leol.

Y dyddiad cau i roi eich adborth i ni yw 19 Ebrill 2023.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a'r cynllun llesiant, ewch i dudalen we llesiant Powys: https://cy.powys.gov.uk/cynaliadwyedd

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Noder: Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol i ni (eich enw llawn, cyfeiriad, neu rif ffôn), hoffem i chi wybod y bydd yn cael ei storio'n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, yn cael ei ddefnyddio’n unig at y dibenion a ddisgrifir yn yr arolwg ac yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Rhannu Arolwg Cynllun Llesiant ar Facebook Rhannu Arolwg Cynllun Llesiant Ar Twitter Rhannu Arolwg Cynllun Llesiant Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cynllun Llesiant dolen