Camlesi, Cymunedau a Llesiant
Consultation has concluded
Mae’r ymarfer ymgysylltu hwn wedi cau.
Yr hyn y mae prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant yn canolbwyntio arno yw datblygu cysylltiadau, o fewn coridor o 5km, ar hyd pob ochr i Camlas Maldwyn a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
Bydd y prosiect yn ceisio cynyddu mynediad i'r cyhoedd i gyfleoedd hamdden, a theithio llesol gwledig, er mwyn gwella llesiant.
Byddem wrth ein bodd cael gwybod beth yw eich barn am y camlesi ym Mhowys er mwyn i ni allu llywio ein cynlluniau at y dyfodol o ran eich syniadau a'ch anghenion. P’un ai dyna yr hoffech chi ei weld yn gwella, ynteu gwelliant o ran yr hyn sy’n atal ar hyn o bryd rhag manteisio i’r eithaf ar eich syniadau a’ch anghenion, rydyn ni wedi cynnwys ychydig o enghreifftiau isod.
- Gwelliannau i lwybrau troed, giatiau a chamfeydd, ar lwybrau halio’r gamlas ac ar hawliau tramwy cyhoeddus sy’n cysylltu aneddiadau cyfagos a lleoedd o ddiddordeb.
- Creu gwell lleoedd i natur ffynnu, trwy ddatblygu gwarchodfa natur a gweithgarwch ar hyd coridor y gamlas.
- Teithiau cerdded tywysedig a chydweithio â mentrau sy’n bodoli eisoes, gan ddod â chymunedau, grwpiau cymunedol a darparwyr iechyd ynghyd i gysylltu pawb â'r awyr agored.
- Marchnata a gwybodaeth, gan helpu i ddatblygu cyfleoedd i'r camlesi gefnogi busnesau lleol a gwirfoddoli.
Wrth inni edrych ar awgrymiadau y gellir eu cyflawni o fewn y prosiect presennol, gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiadau ochr y gamlas a chysylltiadau â’r camlesi, rydym hefyd yn adeiladu syniad o'r hyn y gellir ei gynnwys mewn cynlluniau at y dyfodol, naill ai i'w cyflawni gan unrhyw un o bartneriaid y prosiect neu fel rhaglen waith ar y cyd yn y dyfodol. O'r herwydd, mae croeso i bob syniad ac awgrym gan drigolion Powys ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Sut i rannu eich syniadau
Mae yna ddwy ffordd i rannu eich barn gyda ni, gan ddefnyddio'r offer ar waelod y dudalen hon. Gallwch....
- Rannu eich meddyliau a'ch syniadau gyda ni gan ddefnyddio ein hadnodd mapio rhyngweithiol. Mae map ar gyfer pob camlas. Dim ond o fewn y coridor 5km a amlygwyd ar hyd pob camlas y gellir gosod sylwadau. (Sylwch y bydd angen i chi ychwanegu eich e-bost ac enw sgrin i gyflwyno eich sylw. Mae hyn er mwyn helpu i greu amgylchedd ar-lein diogel i bobl rannu eu barn).
- Anfonwch eich barn yn ddienw drwy ein harolwg ar-lein (Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud).
- Neu'r ddau!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolwg neu'r Prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant, cysylltwch â Wendy Abel, Rheolwr y Prosiect trwy e-bost: wendy.abel@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 826722.
Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog
I rannu eich barn ar ein map rhyngweithiol, yn syml:
- Cliciwch ar y map
- Chwyddwch i mewn i ddod o hyd lle’r ydych am roi eich pin
- Dewiswch y symbol plws '+' i ychwanegu pin
- Dewiswch y pin mae eich sylw yn ymwneud â nhw
- Llusgwch a gollyngwch eich pin ar y map
- Ychwanegwch eich sylw a phwyswch y botwm cyflwyno
Sylwch - dim ond o fewn y coridor 5km ar hyd y gamlas y gallwch roi eich sylwadau.
Cofiwch fod hwn yn fan cyhoeddus, felly peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun nac am eraill yn eich sylwadau.
Camlas Maldwyn
I rannu eich barn ar ein map rhyngweithiol, yn syml:
- Cliciwch ar y map
- Chwyddwch i mewn i ddod o hyd lle’r ydych am roi eich pin
- Dewiswch y symbol plws '+' i ychwanegu pin
- Dewiswch y pin mae eich sylw yn ymwneud â nhw
- Llusgwch a gollyngwch eich pin ar y map
- Ychwanegwch eich sylw a phwyswch y botwm cyflwyno
Sylwch - dim ond o fewn y coridor 5km ar hyd y gamlas y gallwch roi eich sylwadau.
Cofiwch fod hwn yn fan cyhoeddus, felly peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi'ch hun nac am eraill yn eich sylwadau.