Camlesi, Cymunedau a Llesiant

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded

Yr hyn y mae prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant yn canolbwyntio arno yw datblygu cysylltiadau, o fewn coridor o 5km, ar hyd pob ochr i Camlas Maldwyn a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Bydd y prosiect yn ceisio cynyddu mynediad i'r cyhoedd i gyfleoedd hamdden, a theithio llesol gwledig, er mwyn gwella llesiant.

Byddem wrth ein bodd cael gwybod beth yw eich barn am y camlesi ym Mhowys er mwyn i ni allu llywio ein cynlluniau at y dyfodol o ran eich syniadau a'ch anghenion. P’un ai dyna yr hoffech chi ei weld yn gwella, ynteu gwelliant o ran yr hyn sy’n atal ar hyn o bryd rhag manteisio i’r eithaf ar eich syniadau a’ch anghenion, rydyn ni wedi cynnwys ychydig o enghreifftiau isod.

  • Gwelliannau i lwybrau troed, giatiau a chamfeydd, ar lwybrau halio’r gamlas ac ar hawliau tramwy cyhoeddus sy’n cysylltu aneddiadau cyfagos a lleoedd o ddiddordeb.
  • Creu gwell lleoedd i natur ffynnu, trwy ddatblygu gwarchodfa natur a gweithgarwch ar hyd coridor y gamlas.
  • Teithiau cerdded tywysedig a chydweithio â mentrau sy’n bodoli eisoes, gan ddod â chymunedau, grwpiau cymunedol a darparwyr iechyd ynghyd i gysylltu pawb â'r awyr agored.
  • Marchnata a gwybodaeth, gan helpu i ddatblygu cyfleoedd i'r camlesi gefnogi busnesau lleol a gwirfoddoli.

Wrth inni edrych ar awgrymiadau y gellir eu cyflawni o fewn y prosiect presennol, gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiadau ochr y gamlas a chysylltiadau â’r camlesi, rydym hefyd yn adeiladu syniad o'r hyn y gellir ei gynnwys mewn cynlluniau at y dyfodol, naill ai i'w cyflawni gan unrhyw un o bartneriaid y prosiect neu fel rhaglen waith ar y cyd yn y dyfodol. O'r herwydd, mae croeso i bob syniad ac awgrym gan drigolion Powys ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Sut i rannu eich syniadau

Mae yna ddwy ffordd i rannu eich barn gyda ni, gan ddefnyddio'r offer ar waelod y dudalen hon. Gallwch....

  • Rannu eich meddyliau a'ch syniadau gyda ni gan ddefnyddio ein hadnodd mapio rhyngweithiol. Mae map ar gyfer pob camlas. Dim ond o fewn y coridor 5km a amlygwyd ar hyd pob camlas y gellir gosod sylwadau. (Sylwch y bydd angen i chi ychwanegu eich e-bost ac enw sgrin i gyflwyno eich sylw. Mae hyn er mwyn helpu i greu amgylchedd ar-lein diogel i bobl rannu eu barn).
  • Anfonwch eich barn yn ddienw drwy ein harolwg ar-lein (Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud).
  • Neu'r ddau!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolwg neu'r Prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant, cysylltwch â Wendy Abel, Rheolwr y Prosiect trwy e-bost: wendy.abel@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 826722.

Mae'r ymarfer ymgysylltu ar agor tan 11 Ionawr 2023.

  • AR GAU

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.