Adolygiad ardal addysg dalgylch Crughywel

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded

Mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad ardal o addysg yn nalgylch Crughywel i adnabod sut y bydd addysg yn cael ei ddarparu yn y dalgylch yn y dyfodol.

Fel rhan o’r adolygiad ardal, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn medru cwblhau’r holiadur yma fydd o gymorth i’r Cyngor adnabod syniadau ar sut i wella’r ddarpariaeth yn y dalgylch yn y dyfodol. Bydd yr holiadur yn agored am 4 wythnos – rhaid derbyn pob ymateb erbyn Dydd Iau 10 Tachwedd.

Ar ddiwedd y cyfnod o 4 wythnos, bydd y Cyngor yn paratoi adroddiad yn amlinellu’r adborth a dderbyniwyd, ac yna’n paratoi adroddiad ar y ffordd ymlaen a ffefrir yn y dalgylch. Bydd yr adroddiad yma yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn gynnar yn 2023.

Yn dilyn hyn, bydd cyfleoedd pellach i randdeiliaid roi eu barn ar y cynlluniau, unai drwy ymgysylltu pellach, neu drwy brosesau ymgynghori ffurfiol, yn ddibynol ar gasgliad rhan gyntaf y gwaith.

Gellir cael gwybodaeth bellach am yr ymarferiad yma gan y Tîm Trawsnewid Addysg drwy ebostio transforming.education@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826618.

Am wybodaeth am sut mae’r Tîm Trawsnewid Addysg yn gwarchod ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n cael eu casglu yn ystod prosesau ymgysylltu, fe’ch cyfeirir at nodyn preifatrwydd Trawsnewid Addysg, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen hon: https://cy.powys.gov.uk/article/9804/Hysbysiad-Preifatrwydd-Trawsnewid-Ysgolion

  • CLOSED: This survey has concluded.