Cynllun Strategol Drafft y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032

Rhannu Cynllun Strategol Drafft y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 ar Facebook Rhannu Cynllun Strategol Drafft y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 Ar Twitter Rhannu Cynllun Strategol Drafft y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 Ar LinkedIn E-bost Cynllun Strategol Drafft y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 dolen

Consultation has concluded

Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod lleol i baratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) sy’n nodi sut y byddant yn datblygu addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae Cyngor Sir Powys ar hyn o bryd yn paratoi CSGA 10 mlynedd newydd ar gyfer 2022-2032, ac yn ymgynghori ar ei gynllun drafft, sydd wedi ei baratoi yn unol ȃ chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun drafft yn gosod gweledigaeth y Cyngor ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, yn cynnwys nifer o dargedau a gweithredoedd, yn seiliedig ar 7 Deilliant, gyda’r bwriad o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y deilliannau yn cyfrannu tuag at gyflawni Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy’n anelu i gael un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Hoffem gael eich barn ar gynllun y Cyngor, ac yn arbennig, i ba raddau y cytunwch y bydd cynlluniau’r Cyngor yn arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2032.

Mae CSGA drafft y Cyngor ar gyfer 2022-2032 ar gael yn yr adran ‘Dogfennau’ ar ochr dde y dudalen hon. Dylech ddarllen y ddogfen cyn cwblhau’r holiadur hwn.

Gellir gofyn am gopi papur trwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a'r cyfeiriad post isod, neu trwy ffonio 01597 827284. 

Gallwch gyflwyno eich sylwadau ar y CSGA drafft drwy unai gwblhau’r holiadur isod neu drwy gysylltu efo ni drwy:

E-bost: school.consultation@powys.gov.uk 

Post: Y Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG

Rhiad cwblhau’r holiadur a danfon unrhyw ohebiaeth am yr ymgynghoriad yma atom erbyn 19 Tachwedd 2021

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Unwaith bydd yr ymgynghoriad wedi cau, bydd y Cyngor yn paratoi adroddiad ymgynghori yn nodi’r ymatebion a dderbyniwyd, a bydd yna’n adolygu a diweddaru’r CSGA. Disgwylir y bydd yr adroddiad ymgynghori a’r CSGA terfynol ar gyfer 2022-2032 yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn Ionawr 2022, cyn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

I wybod sut y mae’r Tîm Trawsnewid Addysg yn diogelu a defnyddio gwybodaeth bersonol fydd yn cael ei chasglu yn ystod y broses ymgynghori, gallwch ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd Trawsnewid Addysg drwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://cy.powys.gov.uk/article/9804/Hysbysiad-Preifatrwydd-Trawsnewid-Ysgolion

  • CLOSED: This survey has concluded.
    Consultation has concluded
    Rhannu Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad ar Facebook Rhannu Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad Ar Twitter Rhannu Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad Ar LinkedIn E-bost Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad dolen