Dyfodol canol ein trefi
Mae’r arolwg hwn wedi cau.
Mae argyfwng Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar fywydau ac iechyd llawer o ddinasyddion Powys, ond mae hefyd wedi esgor ar ganlyniadau economaidd difrifol. Cafodd y cyfyngiadau symud effaith uniongyrchol ar y ffordd y mae canol ein trefi'n gweithredu, gyda llawer o fusnesau yn addasu'r ffordd y maent yn gweithio i sicrhau bod eu cymunedau lleol yn derbyn y gwasanaethau a'r nwyddau yr oedd eu hangen arnynt gydol y pandemig.
Er mwyn annog y cyhoedd yn ôl i ganol ein trefi ac i helpu busnesau i agor yn ddiogel ac yn unol â’r cyfyngiadau a’r reoliadau parhaus, roedd yn bwysig gwneud rhai newidiadau dros dro i'r ffordd yr oedd rhai o ganol ein trefi wedi bod yn gweithredu'n draddodiadol. Ni fydd ateb cyflym i adfer o argyfwng Covid-19: bydd yr angen am ymbellhau cymdeithasol a mesurau amddiffyn personol gyda ni am beth amser eto.
Rhoddwyd y mesurau dros dro ar waith ar gyfer ymbellhau cymdeithasol yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr o bob un o’r trefi i hwyluso pethau i fusnesau sy'n masnachu, drwy ddarparu lle awyr agored i'w cwsmeriaid, ac i gerddwyr ymbellhau'n gymdeithasol oddi wrth ei gilydd wrth iddynt gerdded ar hyd y palmentydd
Yr hyn a wnaeth y mesurau dros dro hyn oedd tynnu sylw at y ffaith y gall canol trefi esblygu a defnyddio'r briffordd yn wahanol. Mae'r pandemig wedi arwain at brofi elfen o ddiwylliant caffi yn ein trefi a brwdfrydedd dros gofleidio ein hardaloedd allanol, sy'n rhywbeth y gellid ei ystyried yn briodol wrth gadw cyfyngiadau ar ôl pandemig.
Rydym yn ymwybodol bod y stryd fawr wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r pandemig wedi cyflymu'r newid hwnnw ers sawl blwyddyn, yn anad dim trwy ddibynnu mwy ar siopa ar-lein ac ati. Rhaid inni felly geisio mynd i'r afael â'r newid hwnnw a helpu i adfer canol ein trefi drwy eu gwneud yn gyrchfannau y mae pobl yn awyddus i ymweld â hwy, gyda busnesau gwydn a hyfyw a chymunedau cryf.
Wrth i ni ddechrau cynllunio am ddyfodol diogel, cydnerth, dyma'r cyfle i edrych ar bethau wahanol ac ailgloriannu ein mannau cyhoeddus. Er y gallai rhai busnesau ystyried ei bod yn hanfodol parcio yn y stryd fawr, nid yw hyn bob amser yn darparu'r mannau deniadol a fydd yn denu pobl i'r dref honno. Felly, mae angen inni ystyried cydbwysedd anghenion y siopau a'r busnesau ac argaeledd mannau parcio, a datblygu cynigion sy'n diwallu anghenion stryd fawr sy'n newid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant i lunio lleoedd arbennig yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol hon, i'n galluogi i archwilio hyn yn fanylach. Ni fydd dim yn cael ei roi ar waith heb y lefelau priodol o ymgynghori â phawb sy'n gysylltiedig â phob tref. Ond yn gyntaf, hoffem ofyn eich barn am y mesurau dros dro diweddar yn Aberhonddu, y Gelli Gandryll, y Drenewydd a Chrughywel.