Fforwm Rhianta Powys
Mae Fforwm Rhianta Powys yn cynrychioli profiadau a lleisiau rhieni, a’u plant, ledled y sir.
Pan gyfeiriwn at 'rieni' rydym yn golygu hyn fel term cynhwysol sy'n cwmpasu unrhyw un sy'n gwneud rôl rhianta: rhieni (tadau a mamau), neiniau a theidiau, rhieni maeth, rhieni sy’n mabwysiadu, gwarchodaethau arbennig, gofalwyr sy’n perthnasau neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Nid oes angen cymwysterau arbennig ar gyfer y rôl Cynrychiolydd Cymunedol Rhieni, y cyfan a ofynnwn yw y gallwch sbario ychydig oriau, bedair gwaith y flwyddyn i fynychu ein Fforwm Rhianta. Cynhelir cyfarfodydd ar-lein bob chwarter, gyda chyfarfod wyneb yn wyneb ar ddiwedd y flwyddyn, a byddwch yn derbyn cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant parhaus yn ystod eich cyfnod ar y fforwm.
Beth gewch chi allan ohono?
- Hyfforddiant ar gyfranogiad a diogelu.
- Gwybodaeth ac adnoddau y gallwch eu darllen mewn ffordd hawdd a'u rhannu â rhieni eraill.
- Cyfleoedd i gynrychioli eich cymuned ar lefel Cymru gyfan mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau.
- Cyswllt â sefydliad neu berson penodol yn eich ardal leol sy'n gallu darparu cefnogaeth amserol.
- Cefnogaeth ac arweiniad.
- Ennill sgiliau cyfathrebu a threfnu.
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cynrychiolydd Cymunedol Rhieni, cliciwch yma: Cynrychiolydd Cymunedol Rhieni Disgrifiad o’r Rôl.pdf
Ein cyfarfod nesaf o’r Fforwm Rhianta yw: Dydd Llun 22 Medi 2025 (Amser i’w gadarnhau).
Hoffech chi gymryd rhan? Anfonwch e-bost atom yn haveyoursay@powys.gov.uk a rhowch 'Fforwm Rhianta' yn llinell y pwnc.