Lleisiau Teuluoedd Powys

Rhannu Lleisiau Teuluoedd Powys ar Facebook Rhannu Lleisiau Teuluoedd Powys Ar Twitter Rhannu Lleisiau Teuluoedd Powys Ar LinkedIn E-bost Lleisiau Teuluoedd Powys dolen

Mae Fforwm Rhianta Powys yn cynrychioli profiadau a lleisiau rhieni, a’u plant, ledled y sir.

Pan gyfeiriwn at 'rieni' rydym yn golygu hyn fel term cynhwysol sy'n cwmpasu unrhyw un sy'n gwneud rôl rhianta: rhieni (tadau a mamau), neiniau a theidiau, rhieni maeth, rhieni sy’n mabwysiadu, gwarchodaethau arbennig, gofalwyr sy’n perthnasau neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Nid oes angen cymwysterau arbennig ar gyfer y rôl Cynrychiolydd Cymunedol Rhieni, y cyfan a ofynnwn yw y gallwch sbario ychydig oriau, bedair gwaith y flwyddyn i fynychu ein Fforwm Rhianta. Cynhelir cyfarfodydd ar-lein bob chwarter, gyda chyfarfod wyneb yn wyneb ar ddiwedd y flwyddyn, a byddwch yn derbyn cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant parhaus yn ystod eich cyfnod ar y fforwm.

Beth gewch chi allan ohono?

  • Hyfforddiant ar gyfranogiad a diogelu.
  • Gwybodaeth ac adnoddau y gallwch eu darllen mewn ffordd hawdd a'u rhannu â rhieni eraill.
  • Cyfleoedd i gynrychioli eich cymuned ar lefel Cymru gyfan mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau.
  • Cyswllt â sefydliad neu berson penodol yn eich ardal leol sy'n gallu darparu cefnogaeth amserol.
  • Cefnogaeth ac arweiniad.
  • Ennill sgiliau cyfathrebu a threfnu.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cynrychiolydd Cymunedol Rhieni, cliciwch yma: Cynrychiolydd Cymunedol Rhieni Disgrifiad o’r Rôl.pdf

Ein cyfarfod nesaf o’r Fforwm Rhianta yw: Amser/Dyddiad i’w gadarnhau

Hoffech chi gymryd rhan? Anfonwch e-bost atom yn haveyoursay@powys.gov.uk a rhowch 'Fforwm Rhianta' yn llinell y pwnc.

  • Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) a DPA 2018. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Cliciwch yma am ein Datganiad Preifatrwydd Fforwm Rhianta.  

    Llenwi'r Ffurflen
    Rhannu Ffurflen Gofrestru Lleisiau Teuluoedd Powys ar Facebook Rhannu Ffurflen Gofrestru Lleisiau Teuluoedd Powys Ar Twitter Rhannu Ffurflen Gofrestru Lleisiau Teuluoedd Powys Ar LinkedIn E-bost Ffurflen Gofrestru Lleisiau Teuluoedd Powys dolen
Diweddaru: 18 Sep 2026, 04:02 PM