Gwella Gyda'n Gilydd: Ceisio'ch barn ar Wasanaethau Cymunedol Iechyd Corfforol a Meddyliol i Oedolion ym Mhowys
Rydym yn ceisio eich barn gychwynnol ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol ym Mhowys erbyn 27 Gorffennaf 2025. Mae'r wefan hon yn esbonio sut y gallwch ddarganfod mwy a dweud eich dweud.
Diolch am eich diddordeb yn y cynllun Gwella Gyda'n Gilydd. Ein sgwrs fawr gyda chi ydyw, er mwyn llunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel ac o ansawdd i Bowys a sicrhau bod ein Strategaeth Iechyd a Gofal yn cael eu cyflawni.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chleifion, defnyddwyr gwasanaethau, cymunedau, staff iechyd a gofal, a sefydliadau partner i wella canlyniadau iechyd a gwneud gwasanaethau yn fwy effeithlon ac effeithiol.
Er bod gennym rai sylfeini rhagorol i adeiladu arnynt, mae angen i ni nawr newid yn radical y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau fel y gallwn gwrdd â'r galw cynyddol ac anghenion y boblogaeth yn y dyfodol.
Mae gennym ddyletswydd gofalu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n poblogaeth. Mae gennym ddyletswydd hefyd i fyw o fewn ein modd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni ystyried opsiynau ar gyfer sut a ble y gallem ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Gallai hyn olygu bod angen i gleifion gael mynediad at wasanaethau mewn ffordd wahanol neu mewn lle gwahanol.
Byddwn yn gwneud hyn trwy weithredu cynllun 'Gwella Gyda'n Gilydd' gyda phobl, partneriaid a staff lleol i lunio gwasanaethau iechyd a gofal sy'n gynaliadwy, yn effeithiol, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysicaf i'n cymunedau.
Mae'r wefan hon yn esbonio pam mae angen newid, ein lefel o uchelgais i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd, a sut y gallwch ddweud eich dweud.
Trwy wrando ar ein cleifion, ac ar ein timau clinigol a phroffesiynol, rydym wedi nodi'r angen i ganolbwyntio ein hymdrechion i ddechrau ar ein gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddwl. Mae hyn oherwydd yr heriau y mae'r gwasanaethau hyn yn eu profi, a'r effaith gynyddol y mae hyn yn ei chael ar ansawdd a'n gallu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.
Rydym yn ceisio eich barn ar sut rydym yn mynd i'r afael â'r heriau ac yn darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Bydd cyfleoedd eraill i glywed eich barn ar sut rydym yn mynd i'r afael â heriau eraill a nodwyd o fewn yr Achos dros Newid a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill. Yn ystod 2025 rydym yn canolbwyntio ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddwl oedolion. Ar ôl hyn, byddwn yn canolbwyntio ar ofal wedi'i gynllunio (fel cleifion allanol arferol, achosion diwrnod llawfeddygol ac ymchwiliadau sy'n helpu i adnabod cyflwr iechyd neu glefyd) ac yna gwasanaethau sy'n cefnogi iechyd plant, teuluoedd a menywod.
Erbyn pryd hoffem glywed eich barn?
Hoffem glywed eich barn erbyn hanner nos ddydd Sul 27 Gorffennaf 2025.
Rydym ni'n eich gwahodd i edrych ar yr holl ddogfennau gan gynnwys:
- Darllenwch y ddogfen ymgysylltu
- Darllenwch y wybodaeth "Achos Dros Newid" a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill
- Ac yna cwblhewch yr arolwg
Gallwch hefyd:
- Ffonio, ysgrifennu neu e-bostio ni i ofyn am gopïau caled o'r dogfennau.
- Ffonio ni ar 01874 442917 Gadewch neges yn nodi pa ddogfennau rydych chi eu heisiau gyda'ch enw a'ch cyfeiriad post, gan sillafu unrhyw eiriau anarferol. e.e. Enw'r Tŷ.
- Ysgrifennu atom yn: Gwella Gyda’n Gilydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys LD3 0LY
- E-bostio ni yn: powys.engagement@wales.nhs.uk
- Mynynchu Digwyddiad Galw Heibio (gweler y dyddiadau a restrir yn y golofn dde)
- Ymuno â digwyddiad trafodaeth gyhoeddus
- Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth trwy e-bost, gallwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Newyddion Ymgysylltu(Dolen allanol) am ddim sy'n anfon gwybodaeth yn uniongyrchol i'ch mewnflwch am gyfleoedd i ddweud eich dweud ar wasanaethau'r bwrdd iechyd.
Mae ein hysbysiad preifatrwydd ar gael yma os hoffech ei ddarllen.(Dolen allanol)
Yn olaf, diolch am dreulio’r amser yn darllen ac ymateb. Mae eich barn yn bwysig i ni.