
Ceisio'ch barn ar Wasanaethau Cymunedol Oedolion Iechyd Corfforol ac Iechyd Meddwl ym Mhowys
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn awyddus i glywed gan breswylwyr, cleifion, teuluoedd, grwpiau gwirfoddol, partneriaid ac unrhyw un arall sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd i'n helpu ni gynllunio sut rydyn ni’n cynnig gwasanaeth iechyd yn y dyfodol.
Ein cenhadaeth graidd yw darparu a chomisiynu gwasanaethau diogel sy'n cynnig y canlyniadau gorau i gleifion.
Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ar Gwella Gyda’n Gilydd yn allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o ofal i bob claf; diogelu'r gwasanaethau; gwella gwydnwch lle mae'n fregus ar hyn o bryd; lleihau aneffeithlonrwydd ac ymateb i bwysau staffio a chyllidebol.
Cyn i chi gwblhau'r arolwg hwn, darllenwch ein Dogfen Ymgysylltu ac edrychwch ar y dogfennau eraill a ddarparwyd.
Yn ystod y cyfnod ymgysylltu hwn, hoffem glywed eich barn ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol oedolion ym Mhowys. Darllenwch y Ddogfen Ymgysylltu cyn i chi gwblhau'r arolwg hwn.
Bydd cyfnodau ymgysylltu yn y dyfodol yn canolbwyntio ar feysydd gwasanaeth eraill gan gynnwys Gofal wedi’i Gynllunio, a Gwasanaethau i Fenywod a Phlant.
Diolch. Hoffem gael eich adborth erbyn 27 Gorffennaf 2025.
CWESTIYNAU AM CHI
Er mwyn ein helpu ni ddeall a ydym wedi casglu barn gan ystod eang o drigolion a chymunedau, byddem yn ddiolchgar pe gallech ateb ychydig mwy o gwestiynau amdanoch chi.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw'n gyfrinachol.
Gallwch ddewis ateb rhai o’r cwestiynau ac nid eraill trwy ddewis yr opsiwn 'gwell gen i beidio â dweud'.
Mae’n arbennig o ddefnyddiol i ni ddeall pa ardal leol rydych chi’n byw ynddi, eich oedran a’ch rhywedd.
Fodd bynnag, os ydych yn dymuno hepgor yr adran hon yn gyfan gwbl, ewch i’r diwedd a dewiswch yr opsiwn “cyflwyno”
Diolch.
Sylwch:
Fel yr amlinellir yn Neddf Diogelu Data 2018, data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson byw dynodedig neu adnabyddadwy (a elwir yn 'destun y data').
Mae hyn yn cynnwys data personol categori arbennig fel: data personol am hil unigolyn; tarddiad ethnig; cyfeiriadedd rhywiol; crefydd neu gred; anabledd.
0% Ateb