Gwobrau Staff 2026

Rhannu Gwobrau Staff 2026 ar Facebook Rhannu Gwobrau Staff 2026 Ar Twitter Rhannu Gwobrau Staff 2026 Ar LinkedIn E-bost Gwobrau Staff 2026 dolen

Am beth y dyfernir y gwobrau?

Gwobrwyo aelodau eithriadol o staff

  • Mae’r rhai sydd nid yn unig yn dda yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, ond sydd hefyd yn mynd y filltir ychwanegol honno
  • Unigolion a thimau – mae gennym ni gategorïau ar gyfer y ddau!
  • Eich llwyddiannau mewn gwaith yn ogystal ag yn y gymuned

Pwy all enwebu?

  • Cynghorwyr Sir Powys, gweithwyr (waeth pa lefel neu radd ydych chi), rheolwyr, ac ysgolion
  • Cofiwch nad ydych yn cael enwebu aelod o’ch teulu, partner neu ffrind personol

Mae enwebu mor hawdd ag 1-2-3!

  1. Darllenwch drwy’r categorïau isod a dewiswch y mwyaf priodol: Categorïau Gwobrau Staff

  2. Rhowch eich enwebiad, gan ganolbwyntio ar ansawdd nid hyd! Bydd y beirniaid yn seilio’u penderfyniadau ar y wybodaeth a’r dystiolaeth rydych yn eu darparu. Felly darllenwch y meini prawf beirniadu yn ofalus gan roi gwybodaeth i’r beirniaid a fydd yn rhoi’r cyfle gorau i’ch enwebai lwyddo

  3. Cyflwynwch eich enwebiad ar-lein!

Creu cais buddugol

Astudiwch y ffurflen

Mae’r meini prawf beirniadu ar gyfer pob gwobr yn unigryw, felly cymerwch amser i ddarllen y rhain yn ofalus cyn i chi gyflwyno’ch cais. Dylai hyn eich helpu i arwain at y math o wybodaeth y bydd y beirniaid yn chwilio amdani, yn ogystal â gwneud yn sicr eich bod wedi dewis y categori mwyaf priodol ar gyfer eich enwebai.

Defnyddiwch enghreifftiau

Lle bo'n bosibl, defnyddiwch enghreifftiau i gefnogi eich datganiadau/rhesymau. Cofiwch gynnwys gwerthuso, effaith ac enghreifftiau mesuradwy lle bo hynny'n briodol. Gallai enghreifftiau da wneud i'ch cais sefyll allan o'r dorf.

Bod yn glir

O fewn eich cais, esboniwch yn glir y rhesymau pam yr ydych yn credu bod eich enwebai yn haeddu derbyn gwobr a rhowch enghreifftiau a /neu dystiolaeth lle bo hynny’n bosibl.

Peidiwch â chymryd dim yn ganiataol

Er bod paneli beirniadu yn cael eu tynnu o amrywiaeth eang o wasanaethau, peidiwch â thybio y bydd gan y beirniaid wybodaeth ymlaen llaw am eich gwasanaeth neu brosiect. Felly rhowch y cyd-destun gorau iddyn nhw. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod ganddynt wybodaeth flaenorol a rhowch wybodaeth gefndir lle bo hynny’n angenrheidiol.

Eithriadol, eithriadol, eithriadol!

Rydym i gyd yn ymdrechu i wneud ein gwaith yn dda. Ond mae’r gwobrau staff yn anelu at gydnabod y rhai sydd wedi gwneud rhywbeth eithriadol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn amlinellu beth mae eich enwebai yn ei wneud sydd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid ganddo fel arfer.

  • Amodau mynediad: Staff, cynghorwyr sir, neu staff ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig sy'n gallu cyflwyno enwebiadau. Nid ydych yn gallu enwebu aelod o'ch teulu, eich partner, na'ch ffrind personol.

    Datganiad Preifatrwydd:

    Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a diogelu preifatrwydd yr holl enwebeion yng Ngwobrau Staff 2026. Bydd y wybodaeth amdanoch a ddarparwyd gennych ar gyfer unrhyw enwebiad yn cael ei storio'n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a dim ond yn fewnol y bydd yn cael ei rhannu, er enghraifft gyda gweinyddwyr a beirniaid gwobrau. Os ydych wedi cyrraedd y rhestr fer, gellid defnyddio eich gwybodaeth yn y seremoni wobrwyo ac mewn cyhoeddiadau mewnol am y gwobrau, a bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn unol ag Erthygl 6 (f) GDPR y DU – buddiannau cyfreithlon.

    O ran cyhoeddiadau allanol, bydd Cyngor Sir Powys yn dibynnu ar Erthygl 6 (a) [Eich Caniatâd] i defnyddio eich data personol. Byddwn yn cysylltu â chi i gasglu hyn. Gellir dod o hyd i hysbysiad preifatrwydd llawn Cyngor Sir Powys yma: https://cy.powys.gov.uk/preifatrwydd

    Cyflwyno eich enwebiad
    Rhannu Ffurflen Enwebu ar Facebook Rhannu Ffurflen Enwebu Ar Twitter Rhannu Ffurflen Enwebu Ar LinkedIn E-bost Ffurflen Enwebu dolen
Diweddaru: 19 Awst 2026, 04:44 PM