Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhowch eich enwebiad, gan ganolbwyntio ar ansawdd nid hyd! Bydd y beirniaid yn seilio’u penderfyniadau ar y wybodaeth a’r dystiolaeth rydych yn eu darparu. Felly darllenwch y meini prawf beirniadu yn ofalus gan roi gwybodaeth i’r beirniaid a fydd yn rhoi’r cyfle gorau i’ch enwebai lwyddo
Cyflwynwch eich enwebiad ar-lein!
Creu cais buddugol
Astudiwch y ffurflen
Mae’r meini prawf beirniadu ar gyfer pob gwobr yn unigryw, felly cymerwch amser i ddarllen y rhain yn ofalus cyn i chi gyflwyno’ch cais. Dylai hyn eich helpu i arwain at y math o wybodaeth y bydd y beirniaid yn chwilio amdani, yn ogystal â gwneud yn sicr eich bod wedi dewis y categori mwyaf priodol ar gyfer eich enwebai.
Defnyddiwch enghreifftiau
Lle bo'n bosibl, defnyddiwch enghreifftiau i gefnogi eich datganiadau/rhesymau. Cofiwch gynnwys gwerthuso, effaith ac enghreifftiau mesuradwy lle bo hynny'n briodol. Gallai enghreifftiau da wneud i'ch cais sefyll allan o'r dorf.
Bod yn glir
O fewn eich cais, esboniwch yn glir y rhesymau pam yr ydych yn credu bod eich enwebai yn haeddu derbyn gwobr a rhowch enghreifftiau a /neu dystiolaeth lle bo hynny’n bosibl.
Peidiwch â chymryd dim yn ganiataol
Er bod paneli beirniadu yn cael eu tynnu o amrywiaeth eang o wasanaethau, peidiwch â thybio y bydd gan y beirniaid wybodaeth ymlaen llaw am eich gwasanaeth neu brosiect. Felly rhowch y cyd-destun gorau iddyn nhw. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod ganddynt wybodaeth flaenorol a rhowch wybodaeth gefndir lle bo hynny’n angenrheidiol.
Eithriadol, eithriadol, eithriadol!
Rydym i gyd yn ymdrechu i wneud ein gwaith yn dda. Ond mae’r gwobrau staff yn anelu at gydnabod y rhai sydd wedi gwneud rhywbeth eithriadol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn amlinellu beth mae eich enwebai yn ei wneud sydd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid ganddo fel arfer.
Am beth y dyfernir y gwobrau?
Gwobrwyo aelodau eithriadol o staff
Mae’r rhai sydd nid yn unig yn dda yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, ond sydd hefyd yn mynd y filltir ychwanegol honno
Unigolion a thimau – mae gennym ni gategorïau ar gyfer y ddau!
Eich llwyddiannau mewn gwaith yn ogystal ag yn y gymuned
Pwy all enwebu?
Cynghorwyr Sir Powys, gweithwyr (waeth pa lefel neu radd ydych chi), rheolwyr, ac ysgolion
Cofiwch nad ydych yn cael enwebu aelod o’ch teulu, partner neu ffrind personol
Rhowch eich enwebiad, gan ganolbwyntio ar ansawdd nid hyd! Bydd y beirniaid yn seilio’u penderfyniadau ar y wybodaeth a’r dystiolaeth rydych yn eu darparu. Felly darllenwch y meini prawf beirniadu yn ofalus gan roi gwybodaeth i’r beirniaid a fydd yn rhoi’r cyfle gorau i’ch enwebai lwyddo
Cyflwynwch eich enwebiad ar-lein!
Creu cais buddugol
Astudiwch y ffurflen
Mae’r meini prawf beirniadu ar gyfer pob gwobr yn unigryw, felly cymerwch amser i ddarllen y rhain yn ofalus cyn i chi gyflwyno’ch cais. Dylai hyn eich helpu i arwain at y math o wybodaeth y bydd y beirniaid yn chwilio amdani, yn ogystal â gwneud yn sicr eich bod wedi dewis y categori mwyaf priodol ar gyfer eich enwebai.
Defnyddiwch enghreifftiau
Lle bo'n bosibl, defnyddiwch enghreifftiau i gefnogi eich datganiadau/rhesymau. Cofiwch gynnwys gwerthuso, effaith ac enghreifftiau mesuradwy lle bo hynny'n briodol. Gallai enghreifftiau da wneud i'ch cais sefyll allan o'r dorf.
Bod yn glir
O fewn eich cais, esboniwch yn glir y rhesymau pam yr ydych yn credu bod eich enwebai yn haeddu derbyn gwobr a rhowch enghreifftiau a /neu dystiolaeth lle bo hynny’n bosibl.
Peidiwch â chymryd dim yn ganiataol
Er bod paneli beirniadu yn cael eu tynnu o amrywiaeth eang o wasanaethau, peidiwch â thybio y bydd gan y beirniaid wybodaeth ymlaen llaw am eich gwasanaeth neu brosiect. Felly rhowch y cyd-destun gorau iddyn nhw. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod ganddynt wybodaeth flaenorol a rhowch wybodaeth gefndir lle bo hynny’n angenrheidiol.
Eithriadol, eithriadol, eithriadol!
Rydym i gyd yn ymdrechu i wneud ein gwaith yn dda. Ond mae’r gwobrau staff yn anelu at gydnabod y rhai sydd wedi gwneud rhywbeth eithriadol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn amlinellu beth mae eich enwebai yn ei wneud sydd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid ganddo fel arfer.
Amodau mynediad: Staff, cynghorwyr sir, neu staff ysgolion Cyngor Sir Powys yn unig sy'n gallu cyflwyno enwebiadau. Nid ydych yn gallu enwebu aelod o'ch teulu, eich partner, na'ch ffrind personol.
Datganiad Preifatrwydd:
Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a diogelu preifatrwydd yr holl enwebeion yng Ngwobrau Staff 2026. Bydd y wybodaeth amdanoch a ddarparwyd gennych ar gyfer unrhyw enwebiad yn cael ei storio'n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a dim ond yn fewnol y bydd yn cael ei rhannu, er enghraifft gyda gweinyddwyr a beirniaid gwobrau. Os ydych wedi cyrraedd y rhestr fer, gellid defnyddio eich gwybodaeth yn y seremoni wobrwyo ac mewn cyhoeddiadau mewnol am y gwobrau, a bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn unol ag Erthygl 6 (f) GDPR y DU – buddiannau cyfreithlon.
O ran cyhoeddiadau allanol, bydd Cyngor Sir Powys yn dibynnu ar Erthygl 6 (a) [Eich Caniatâd] i defnyddio eich data personol. Byddwn yn cysylltu â chi i gasglu hyn. Gellir dod o hyd i hysbysiad preifatrwydd llawn Cyngor Sir Powys yma: https://cy.powys.gov.uk/preifatrwydd