Cefndir:
Mae gwasanaethau iechyd ym Mhowys yn wynebu heriau sylweddol sy'n gysylltiedig ag ansawdd, gweithlu a chynaliadwyedd hirdymor.
Yn ystod 2024 fe wnaethom gyflwyno nifer o newidiadau dros dro i'n helpu i ymateb i'r heriau hyn gan hefyd gynnal gofal hanfodol i gleifion.
- Newid i'r oriau agor (8am i 8pm) ar gyfer yr Unedau Mân Anafiadau (UMAau) yn Aberhonddu a Llandrindod.
- Gweithredu dwy Uned Barod i Fynd Adref yn Llanidloes a Bronllys mewn cyfuniad ag adsefydlu cleifion mewnol cryfach yn Aberhonddu a'r Drenewydd.
Fe wnaethom adolygu'r newidiadau dros dro ym mis Gorffennaf 2025. Roedd y newidiadau dros dro yn darparu manteision i ofal cleifion, ond rydym yn cydnabod cryfder teimlad y cyhoedd am wasanaethau ysbytai cymunedol lleol.
Hoffem ddal eich barn flwyddyn yn ddiweddarach. Darllenwch y canlynol:
- y Papur Trafod llawn isod sy'n darparu'r holl gefndir
- y ddau adroddiad Bwrdd (ar y dde)
- y posteri adborth (ar y dde) a gynhyrchwyd a oedd yn crynhoi'r hyn a glywsom yn ystod y cyfnod cyntaf o ymgysylltu.
Mae'r arolwg yn cau am hanner nos ddydd Sul 15 Chwefror 2026. Bydd eich barn yn cyfrannu at adroddiad diweddaru i'n Bwrdd ym mis Mawrth 2026.
Rhannwch eich barn os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.
NEU gallech fynychu digwyddiad galw heibio "Eich Gwasanaethau Iechyd" y GIG.
Mae'r rhain yn digwydd ym mhob un o'r 13 ardal ym Mhowys rhwng Tachwedd 2025 a Chwefror 2026 rhwng 3pm a 6pm.
• Dydd Mercher 26 Tachwedd yn Neuadd y Dref a Aberhonndu
• Dydd Gwener 28 Tachwedd yn Neuadd yn y Strand a Llanfair-ym-muallt
• Dydd Mawrth 2 Rhagfyr yn Hafan Yr Afon yn Y Drenewydd
• Dydd Iau 4 Rhagfyr yn Neuadd Les y Glowyr yn Ystradgynlais
• Dydd Mawrth 9 Rhagfyr yn y Corn Exchange yn Y Trallwng
• Dydd Mercher 10 Rhagfyr yn Y Comm - Hwb Cymunedol, yn Tref-y-clawdd
• Dydd Mawrth 6 Ionawr yn Yr Institiwt yn y Llanfair Caereinion
• Dydd Iau 8 Inawr yn Y Plas yn Machynlleth
• Dydd Iau 15 Ionawr yn y Neuadd Ieuenctid yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymunedol yn Llanfyllin
• Dydd Iau 22 Ionawr yn y Gwesty'r Swan
• Dydd Mawrth 27 Ionawr yn y Canolfan Gymunedol yn Llanidloes
• Dydd Mawrth 3 Chwefror yn y Pafiliwn Canolbarth Cymur yn Llandrindod Wells
• Dydd Gwener 12 Chwefror yn y Neuadd Clarence yn Crucywel
Ein cylchlythyr e-bost
Rydym yn eich annog i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost rheolaidd. Byddwn yn sicrhau bod ein diweddariad Bwrdd ym mis Mawrth 2026 yn cael ei rannu â thanysgrifwyr y cylchlythyr a thrwy ein sianeli cyfathrebu ehangach gan gynnwys ein gwefan a'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gallwch gofrestru yma:
Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael gan y Tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu BIAP, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys LD3 0LY – powys.engagement@wales.nhs.uk