
Dweud Eich Dweud
Gweithredodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys rai newidiadau dros dro i ddau wasanaeth ym mis Rhagfyr 2024. Y rhain oedd:
- Newid i'r oriau agor (8am i 8pm) ar gyfer yr Unedau Mân Anafiadau (UMAau) yn Aberhonddu a Llandrindod.
- Gweithredu dwy Uned Barod i Fynd Adref yn Llanidloes a Bronllys mewn cyfuniad ag adsefydlu cleifion mewnol cryfach yn Aberhonddu a'r Drenewydd.
Fel bwrdd iechyd, ein cenhadaeth graidd yw darparu a chomisiynu gwasanaethau diogel sy'n cynnig y canlyniadau gorau i gleifion. Mae'r rhain yn newidiadau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith dros dro. Roedd yn ofynnol iddynt optimeiddio gofal pob claf; diogelu'r gwasanaethau; gwella gwytnwch lle mae'n fregus ar hyn o bryd; lleihau aneffeithlonrwydd ac ymateb i bwysau staffio a chyllidebol.
Cyn i chi gwblhau'r arolwg hwn, darllenwch:
- y Papur Trafod llawn isod sy'n darparu'r holl gefndir
Diolch yn fawr.
Creu cyfrif i gymryd rhan ar yr arolwg hwn
Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, adnewyddu'r dudalen hon
