Cynnig i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion

Rhannu Cynnig i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion ar Facebook Rhannu Cynnig i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion Ar Twitter Rhannu Cynnig i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion Ar LinkedIn E-bost Cynnig i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion dolen

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi cau.

Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynigion i newid cyfrwng iaith Ysgol Bro Caereinion. Mae'r cynigion fel a ganlyn:

  • Gwneud newid rheoledig i newid cyfrwng y dysgu yn Ysgol Bro Caereinion i gyfrwng Cymraeg.
  • Bydd hyn yn cael ei gyflwyno'n raddol, flwyddyn wrth flwyddyn, gan ddechrau gyda Blwyddyn Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025.

Mae dogfen ymgynghori sy'n rhoi mwy o wybodaeth am y cynigion ar gael ar wefan y Cyngor yn https://cy.powys.gov.uk/article/14817/Ysgol-Bro-Caereinion. Mae'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni am eich barn ar gynnig y Cyngor. Mae modd llenwi'r ffurflen ymateb ar-lein hefyd. Mae dolen i'r ffurflen ar-lein ar gael drwy ddilyn y ddolen uchod.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw'r 7 Rhagfyr 2023. Rhaid derbyn yr holl ymatebion erbyn y dyddiad hwn.

  • Newyddion Diweddaraf

    Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

    Faint o bobl a ymatebodd i'r ymgysylltiad?

    477

    Faint o bobl ymwelodd â'r dudalen hon?

    1,355

    Beth yw'r newyddion diweddaraf?

    Ar ôl iddynt ystyried adroddiad gwrthwynebu, cymeradwyodd Cabinet ddydd Mawrth 28 Mai, ar argymhellion i symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg a hynny'n raddol.

    Byddai'r cynnig yn cael ei gyflwyno'n raddol gan ddechrau gyda Derbyn ym mis Medi 2025 a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2026.

    Fel rhan o'r cynnig, bydd y cyngor yn cynnig trafnidiaeth am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion Blynyddoedd 4 ac iau yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan i'w darparwr uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf pan fyddant yn pontio o'r cynradd i'r uwchradd, pe byddent yn dewis gwneud hynny.

    Byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu i ddisgyblion nad ydynt eto yn y ffrwd Gymraeg, fel rhan o'r cynnig. Byddai hyn ar ffurf cefnogaeth ddwys yn y Gymraeg, sef 'Trochi', i alluogi disgyblion sydd ar hyn o bryd yn y ffrwd Saesneg yng nghyfnod cynradd yr ysgol i drosglwyddo i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Cafodd y fath hon o ddarpariaeth ei darparu'n llwyddiannus yn flaenorol yn y sir ac mewn awdurdodau eraill i alluogi disgyblion i drosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg.