Arolwg Cynllun Corfforaethol
Beth ydym yn ei wneud?
Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, mae angen i'r Cyngor lunio Cynllun Corfforaethol newydd er mwyn helpu trigolion Powys i gyrraedd eu nodau llesiant. Pwrpas yr ymgysylltu hwn yw ceisio adborth cyffredinol gan bobl Powys ar amcanion corfforaethol newydd y cyngor, sy'n ystyried sut yr ydym yn mynd i wneud hyn.
- Byddwn ni'n gwella ymwybyddiaeth pobl o Wasanaethau, a sut i gael mynediad atyn nhw, er mwyn gallu gwneud dewisiadau gwybodus.
- Byddwn ni'n darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant cynaliadwy o ansawdd da, a dod yn gyflogwr achrededig sy’n talu cyflog byw go iawn.
- Byddwn ni'n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi llesiant pobl Powys.
Pam rydyn ni'n ei wneud?
Y nod cyffredinol yw defnyddio'r adborth a dderbyniwyd i benderfynu i ba raddau y mae pobl Powys wedi derbyn yr amcanion newydd, a’r hyn y gallai fod angen ei newid er mwyn i ni sicrhau bod Cynllun Corfforaethol yn bodoli sy’n darparu ar gyfer pobl Powys
RHAN 1 – Cwestiynau demograffig: Gofyn cwestiynau rhagarweiniol i gael ymdeimlad o bwy yw’r atebwr/ble mae’r atebwr (er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn ymatebion o gymaint o bobl Powys â phosibl
RHAN 2 – Cwestiynau am yr amcanion: Gofyn i atebwyr osod pwysigrwydd yr amcanion newydd yn ôl eu trefn, os teimlant y bydd hyn yn effeithio’n bositif ar bobl Powys, a phwy credant y dylem fod yn cydweithio â nhw i gyflawni’r amcan yma.
RHAN 3 – Cwestiynau i gloi: Gofyn am sylwadau pellach.
Gallwch adael eich adborth ar-lein trwy ein harolwg isod neu lawr lwytho a llenwi’r arolwg gan ei hanfon dros e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk neu ei gadael yn eich llyfrgell leol.
Oes un funud gyda chi yn unig? Rhannwch eich syniadau trwy'r bwrdd syndiadau:https://padlet.com/haveyoursaypowys/CIP_Cym
Y dyddiad cau i gyflwyno eich adborth i ni yw 23 Rhagfyr 2022.