Arolwg Cynllun Corfforaethol

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Beth ydym yn ei wneud?

Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, mae angen i'r Cyngor lunio Cynllun Corfforaethol newydd er mwyn helpu trigolion Powys i gyrraedd eu nodau llesiant. Pwrpas yr ymgysylltu hwn yw ceisio adborth cyffredinol gan bobl Powys ar amcanion corfforaethol newydd y cyngor, sy'n ystyried sut yr ydym yn mynd i wneud hyn.

  • Byddwn ni'n gwella ymwybyddiaeth pobl o Wasanaethau, a sut i gael mynediad atyn nhw, er mwyn gallu gwneud dewisiadau gwybodus.
  • Byddwn ni'n darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant cynaliadwy o ansawdd da, a dod yn gyflogwr achrededig sy’n talu cyflog byw go iawn.
  • Byddwn ni'n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi llesiant pobl Powys.

Pam rydyn ni'n ei wneud?

Y nod cyffredinol yw defnyddio'r adborth a dderbyniwyd i benderfynu i ba raddau y mae pobl Powys wedi derbyn yr amcanion newydd, a’r hyn y gallai fod angen ei newid er mwyn i ni sicrhau bod Cynllun Corfforaethol yn bodoli sy’n darparu ar gyfer pobl Powys

RHAN 1 – Cwestiynau demograffig: Gofyn cwestiynau rhagarweiniol i gael ymdeimlad o bwy yw’r atebwr/ble mae’r atebwr (er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn ymatebion o gymaint o bobl Powys â phosibl

RHAN 2 – Cwestiynau am yr amcanion: Gofyn i atebwyr osod pwysigrwydd yr amcanion newydd yn ôl eu trefn, os teimlant y bydd hyn yn effeithio’n bositif ar bobl Powys, a phwy credant y dylem fod yn cydweithio â nhw i gyflawni’r amcan yma.

RHAN 3 – Cwestiynau i gloi: Gofyn am sylwadau pellach.

Gallwch adael eich adborth ar-lein trwy ein harolwg isod neu lawr lwytho a llenwi’r arolwg gan ei hanfon dros e-bost at haveyoursay@powys.gov.uk neu ei gadael yn eich llyfrgell leol.

Oes un funud gyda chi yn unig? Rhannwch eich syniadau trwy'r bwrdd syndiadau:https://padlet.com/haveyoursaypowys/CIP_Cym

Y dyddiad cau i gyflwyno eich adborth i ni yw 23 Rhagfyr 2022.

Ymgynghoriad wedi dod i ben
  • Cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol

    Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon
    Wedi cau: Mae'r drafodaeth hon wedi dod i ben.

    Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

    Mae'r cynllun yn rhoi manylion blaenoriaethau llesiant Cyngor Sir Powys a pha weithredu sydd ei angen i'w cyflenwi.

    Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: "Rydym ni'n falch iawn o ddatgan cyhoeddiad y cynllun mwyaf pwysig i'r cyngor sir ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

    "Dyma'r cynllun corfforaethol cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi ein huchelgais newydd i adeiladu 'Powys Gryfach, Tecach, Wyrddach'.

    "Pobl yw calon Powys, a hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a helpu i ddatblygu ein cynllun.

    "Mae ein hamcanion newydd, sy'n cael eu manylu yn y cynllun, yn canolbwyntio ar feysydd y gallwn eu gwella neu eu datblygu i wneud bywydau pobl yn well, fel unigolion ac fel cymunedau.

    "Er bod y cynllun wedi'i ddatblygu yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl Powys wedi'i ddweud, nid yw'r sgwrs ar ben, a byddem yn croesawu unrhyw adborth parhaus ynghylch gwaith y Cyngor. Gellir gweld ein hymgynghoriadau a'n prosiectau ymgysylltu yn https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ "

    Mae Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 ar gael ar wefan y Cyngor https://cy.powys.gov.uk/eingweledigaeth

    Mae cyflwyniad i'r cynllun drwy fide oar gael yma:

  • Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol

    Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon
    Wedi cau: Mae'r drafodaeth hon wedi dod i ben.

    Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol newydd ar gyfer 2023-2027 ei gymeradwyo gan y cyngor llawn heddiw (23 Chwefror).

    Mae’r ddogfen yn gosod allan blaenoriaethau llesiant Cyngor Sir Powys ar gyfer y pum mlynedd nesaf a pha weithredu sydd ei angen i’w cyflenwi.

    Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a’r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Rydym ni’n falch iawn o ddatgan cyhoeddiad y cynllun mwyaf pwysig i’r cyngor sir ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

    “Dyma’r cynllun corfforaethol cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi ein huchelgais newydd i adeiladu ‘Powys Gryfach, Decach, Wyrddach’.

    “Pobl yw calon Powys, a hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a helpu i ddatblygu ein cynllun.

    “Mae ein nodau newydd, sy’n cael eu manylu yn y cynllun, yn canolbwyntio ar feysydd y gallwn eu gwella neu eu datblygu i wneud bywydau pobl yn well, fel unigolion ac fel cymunedau."

    Caiff Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ddydd Mercher 1 Ebrill.