Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037)

Rhannu Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) ar Facebook Rhannu Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) Ar Twitter Rhannu Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) Ar LinkedIn E-bost Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) dolen

Consultation has concluded

Mae Cynllun Datblygu Lleol Powys (CDLl) a fabwysiadwyd ym mis Ebrill 2018 yn nodi polisïau’r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir ym Mhowys (ac eithrio'r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) hyd at 2026.

Erbyn hyn mae’n rhaid i Awdurdod Cynllunio Lleol Powys adolygu CDLl Powys sydd wedi’i fabwysiadu i sicrhau bod y CDLl a'i dystiolaeth gefnogol yn cael eu diweddaru. Mae canfyddiadau a chasgliadau’r adolygiad o CDLl Powys sydd wedi’i fabwysiadu (2011-2026) wedi’u nodi yn Nrafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu, yr ymgynghorir yn ei gylch ar wahân   www.dweudeichdweudpowys.cymru/ldp-review-report-cymraeg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r cytundeb cyflawni ar gyfer y CDLl Diwygiedig (2022-2037). Mae’r Drafft Ymgynghori ynghylch y Cytundeb Cyflawni yn nodi’r amserlen arfaethedig ar gyfer camau allweddol y gwaith o baratoi CDLl Diwygiedig, ynghyd â’r Cynllun Cynnwys Cymunedau arfaethedig sy’n manylu ar sut a phryd y bydd y gymuned yn gallu cymryd rhan ym mhroses y CDLl Diwygiedig.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar gynnwys y Cytundeb Cyflawni.

Os hoffech wneud sylwadau am gynnwys y ddogfen hon, cyflwynwch nhw trwy'r arolwg ar-lein isod. Bydd angen cyflwyno unrhyw sylwadau a anfonir trwy e-bost neu bost gan ddefnyddio Ffurflen Sylwadau. Mae copïau o’r ffurflenni ar gael ochr yn ochr â’r dogfennau ymgynghori a dylid eu hanfon fel PDF i ldp@powys.gov.uk neu trwy'r post i: Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys SY21 7PH.

Rhaid derbyn sylwadau erbyn 5.00 pm, 1 Chwefror 2022.

Sylwadau Grwpiau

Lle mae grwpiau’n rhannu barn gyffredin am faterion sydd wedi'u cynnwys yn y dogfennau ymgynghori, byddai'n ddefnyddiol iawn i'r grŵp anfon un sylw sy'n cynrychioli'r farn honno.

Beth sy'n Digwydd Nesaf?

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y Cyngor yn adolygu'r sylwadau a dderbyniwyd ac yn gwneud newidiadau i'r Cytundeb Cyflawni fel yr ystyrir yn briodol. Bydd y sylwadau'n cael eu crynhoi yn y dogfennau terfynol, a fydd hefyd yn cynnwys ymateb y Cyngor i'r sylwadau ynghyd ag unrhyw newidiadau a gynigir i'r ddogfen. Bydd y Cytundeb Cyflawni yn cael ei ystyried i’w gymeradwyo gan y Cyngor cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gytuno.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno'n ffurfiol ar y Cytundeb Cyflawni. Bydd cytuno ar y Cytundeb Cyflawni yn nodi dechrau ffurfiol proses y CDLl Diwygiedig.

Cyhoeddir y Cytundeb Cyflawni wedi’i gymeradwyo ar wefan y Cynllun Datblygu Lleol a bydd ar gael i’i archwilio ym mhrif swyddfa'r Cyngor yn ystod oriau agor arferol.

Sylwch: Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a gwarchod eich preifatrwydd pan fyddwch chi'n ymateb i arolwg gan ddefnyddio'r porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), hoffem i chi wybod y bydd yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a’i ddefnyddio at ddibenion fel y disgrifir yn yr arolwg hwn yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab Preifatrwydd ar waelod y dudalen i ganfod mwy.

  • Newyddion Diweddaraf

    Rhannu Newyddion Diweddaraf ar Facebook Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar Twitter Rhannu Newyddion Diweddaraf Ar LinkedIn E-bost Newyddion Diweddaraf dolen

    Cafodd Cytundeb Darparu ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Amnewid Powys ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth 2022 a chytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mehefin. Mae hyn yn golygu bod y broses baratoi ar gyfer y cynllun amnewid yn mynd rhagddi'n ffurfiol bellach, a rhaid i'r broses gydymffurfio â'r Cytundeb Cyflenwi.

    Mae'r Cytundeb Cyflenwi (PDF) [544KB] yn cynnwys Cynllun Ymgysylltiad Cymunedau ac amserlen ar gyfer paratoi a mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid.