Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037)

Rhannu Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) ar Facebook Rhannu Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) Ar Twitter Rhannu Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) Ar LinkedIn E-bost Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) dolen

Consultation has concluded

Mae Cynllun Datblygu Lleol Powys (CDLl) a fabwysiadwyd ym mis Ebrill 2018 yn nodi polisïau’r Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir ym Mhowys (ac eithrio'r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) hyd at 2026.

Erbyn hyn mae’n rhaid i Awdurdod Cynllunio Lleol Powys adolygu CDLl Powys sydd wedi’i fabwysiadu i sicrhau bod y CDLl a'i dystiolaeth gefnogol yn cael eu diweddaru. Mae canfyddiadau a chasgliadau’r adolygiad o CDLl Powys sydd wedi’i fabwysiadu (2011-2026) wedi’u nodi yn Nrafft Ymgynghori’r Adroddiad Adolygu, yr ymgynghorir yn ei gylch ar wahân   www.dweudeichdweudpowys.cymru/ldp-review-report-cymraeg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r cytundeb cyflawni ar gyfer y CDLl Diwygiedig (2022-2037). Mae’r Drafft Ymgynghori ynghylch y Cytundeb Cyflawni yn nodi’r amserlen arfaethedig ar gyfer camau allweddol y gwaith o baratoi CDLl Diwygiedig, ynghyd â’r Cynllun Cynnwys Cymunedau arfaethedig sy’n manylu ar sut a phryd y bydd y gymuned yn gallu cymryd rhan ym mhroses y CDLl Diwygiedig.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar gynnwys y Cytundeb Cyflawni.

Os hoffech wneud sylwadau am gynnwys y ddogfen hon, cyflwynwch nhw trwy'r arolwg ar-lein isod. Bydd angen cyflwyno unrhyw sylwadau a anfonir trwy e-bost neu bost gan ddefnyddio Ffurflen Sylwadau. Mae copïau o’r ffurflenni ar gael ochr yn ochr â’r dogfennau ymgynghori a dylid eu hanfon fel PDF i ldp@powys.gov.uk neu trwy'r post i: Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys SY21 7PH.

Rhaid derbyn sylwadau erbyn 5.00 pm, 1 Chwefror 2022.

Sylwadau Grwpiau

Lle mae grwpiau’n rhannu barn gyffredin am faterion sydd wedi'u cynnwys yn y dogfennau ymgynghori, byddai'n ddefnyddiol iawn i'r grŵp anfon un sylw sy'n cynrychioli'r farn honno.

Beth sy'n Digwydd Nesaf?

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y Cyngor yn adolygu'r sylwadau a dderbyniwyd ac yn gwneud newidiadau i'r Cytundeb Cyflawni fel yr ystyrir yn briodol. Bydd y sylwadau'n cael eu crynhoi yn y dogfennau terfynol, a fydd hefyd yn cynnwys ymateb y Cyngor i'r sylwadau ynghyd ag unrhyw newidiadau a gynigir i'r ddogfen. Bydd y Cytundeb Cyflawni yn cael ei ystyried i’w gymeradwyo gan y Cyngor cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gytuno.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno'n ffurfiol ar y Cytundeb Cyflawni. Bydd cytuno ar y Cytundeb Cyflawni yn nodi dechrau ffurfiol proses y CDLl Diwygiedig.

Cyhoeddir y Cytundeb Cyflawni wedi’i gymeradwyo ar wefan y Cynllun Datblygu Lleol a bydd ar gael i’i archwilio ym mhrif swyddfa'r Cyngor yn ystod oriau agor arferol.

Sylwch: Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am sicrhau a gwarchod eich preifatrwydd pan fyddwch chi'n ymateb i arolwg gan ddefnyddio'r porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), hoffem i chi wybod y bydd yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a’i ddefnyddio at ddibenion fel y disgrifir yn yr arolwg hwn yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab Preifatrwydd ar waelod y dudalen i ganfod mwy.

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Cofiwch: bydd eich enw a'r sylwadau yn eich ymateb i'r ymgynghoriad hwn ar gael i'r cyhoedd. Bydd data personol (eich cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad post a'ch rhif ffôn) yn cael eu trin yn gyfrinachol ac ni fyddant ar gael i'r cyhoedd. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw gael ei gyhoeddi gyda’ch sylwadau, rhowch wybod i ni yn eich ymateb i gwestiwn 10 isod. Bydd unrhyw ddata personol (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn) yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, a’i ddefnyddio at ddibenion paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Powys yn unig, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn 2026, ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Bydd hyn yn golygu y byddwch yn derbyn gohebiaeth yn ystod camau perthnasol y broses o baratoi’r CDLl Diwygiedig oni bai eich bod yn ein hysbysu fel arall.

    Consultation has concluded
    Rhannu Drafft Ymgynghori’r Cytundeb Cyflawni ar Facebook Rhannu Drafft Ymgynghori’r Cytundeb Cyflawni Ar Twitter Rhannu Drafft Ymgynghori’r Cytundeb Cyflawni Ar LinkedIn E-bost Drafft Ymgynghori’r Cytundeb Cyflawni dolen