Byw ym Mhowys - Llywio ein cynllun llesiant

Rhannu Byw ym Mhowys - Llywio ein cynllun llesiant ar Facebook Rhannu Byw ym Mhowys - Llywio ein cynllun llesiant Ar Twitter Rhannu Byw ym Mhowys - Llywio ein cynllun llesiant Ar LinkedIn E-bost Byw ym Mhowys - Llywio ein cynllun llesiant dolen

Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016, â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Sefydlodd y Ddeddf Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, sy'n cynnwys y cyngor, y bwrdd iechyd, y gwasanaeth tân ac achub a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r BGC yn gyfrifol am ddatblygu Asesiad Llesiant a Chynllun Llesiant lleol ar gyfer yr ardal ac am ddiweddaru'r cynllun hwnnw bob pum mlynedd. Mae'n manylu ar y camau a gymerir i fynd i'r afael â materion lleol a chyfrannu at y nodau Llesiant cenedlaethol.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth o'r arolwg hwn ynghyd â ffynonellau data eraill i lywio'r cynllun Llesiant nesaf a sicrhau ein bod yn deall y pwysau y mae ein cymunedau'n eu hwynebu.

  Mae'r dyddiad cau ar gyfer yr arolwg wedi'i ymestyn i 31 Gorffennaf 2021. 

Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol:

  • arolwg ar-lein - cliciwch y ddolen isod
  • arolwg papur - anfonwch e-bost customerservices@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827460 i ofyn am fersiwn wedi’i hargraffu

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau'n deg i bawb sydd eu hangen, byddem yn ddiolchgar pe gallech ateb ychydig o gwestiynau amdanoch eich hun.

    Nid oes yn rhaid ichi ateb yr holl gwestiynau os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Fel arall, gallwch ddewis ateb rhai ac nid eraill drwy ddewis yr opsiynau 'dewis peidio â dweud'.

    Sylwer: Cyfrifoldeb Cyngor Sir Powys yw sicrhau a diogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei roi i ni (eich enw llawn, cyfeiriad neu rif ffôn), yn cael ei storio’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac fe’i defnyddir at y dibenion a ddisgrifiwyd yn yr arolwg yn unig ac yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Cliciwch ar y tab preifatrwydd ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth.

    Ymgynghoriad wedi dod i ben
    Rhannu Byw ym Mhowys ar Facebook Rhannu Byw ym Mhowys Ar Twitter Rhannu Byw ym Mhowys Ar LinkedIn E-bost Byw ym Mhowys dolen