Powys Gynaliadwy

Rhannu Powys Gynaliadwy ar Facebook Rhannu Powys Gynaliadwy Ar Twitter Rhannu Powys Gynaliadwy Ar LinkedIn E-bost Powys Gynaliadwy dolen

Cefndir

Mae darparu gwasanaethau llywodraeth leol gwerthfawr wrth wraidd popeth a wnawn. Gydag amseroedd cyfnewidiol a’r amodau economaidd, mae angen i ni fod yn rhagweithiol, yn arloesol ac yn flaengar er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn cydnabod yr heriau ac rydym am weithio mewn partneriaeth i archwilio'r cyfleoedd i wneud y newidiadau sydd eu hangen i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys.

Y sefyllfa ariannol

Mae'r argyfwng economaidd presennol a chostau byw cynyddol yn golygu bod Cyngor Sir Powys yn rhagweld bwlch o dros £20 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae disgwyl i hyn gynyddu i £44 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn gadael bwlch sylweddol yn ein cyllid sydd ar gael ac yn golygu na allwn fforddio parhau i ddarparu ein gwasanaethau yn yr un modd.

Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi edrych ar ein gwasanaethau i ddod yn fwy effeithlon. Er bod newidiadau wedi'u gwneud, nid yw'r dull hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir ac mae angen i ni nawr fod yn fwy radical a newid ein dull.

Beth yw ‘Powys Gynaliadwy’?

Yng Nghyngor Sir Powys, rydyn ni’n mabwysiadu dull newydd o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Rydym am sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau cryfach, tecach a gwyrddach wrth symud ymlaen, tra'n aros o fewn y gyllideb sydd ar gael.

Mae 'Powys Gynaliadwy' yn ddull rhagweithiol o fynd i'r afael â hyn - gan adolygu pa wasanaethau a ddarperir a sut, tra'n cydweithio â chymunedau lleol i archwilio datrysiadau arloesol.

Sut allwch chi gymryd rhan?

Mae ymgysylltu yn rhan bwysig o Powys Gynaliadwy. Rydym eisiau i bawb gael y cyfle i ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol Powys - p'un a ydych yn breswylydd ym Mhowys, yn aelod o staff, yn gynghorydd neu'n rhanddeiliad arall. Dim ond drwy gydweithio y gallwn wireddu ein huchelgais. Cymerwch ran!

Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan:

Icon of a lightbulbRhannu syniadau. Cliciwch yma neu ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar y tab syniadau isod.
Icon of a pin on a mapAtodi pin a sylw ar y fap o Bowys. Cliciwch yma neu ewch i waelod y dudalen a chlicio tab y map isod a dewiswch yr ardal hoffech chi wneud sylw arni.
Icon of a survey
Ymunwch â Phanel Pobl Powys. Os hoffech gael eich cynnwys a derbyn gwahoddiadau i gymryd rhan o dro i dro, ticiwch y blwch ar broffil Fy Nghyfrif: https://cy.powys.gov.uk/mewngofnodi

Icon of a phone and envelopeCysylltu â’ch Cynghorydd. Caiff Cynghorwyr Lleol eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut dylai’r cyngor ymgymryd â’i wahanol weithgareddau. Defnyddiwch y dolen isod i ddod o hyd i’ch Cynghorydd: https://cy.powys.gov.uk/cynghorwyr

  • Rhannu Sut olwg sydd ar fywyd da i chi? ar Facebook Rhannu Sut olwg sydd ar fywyd da i chi? Ar Twitter Rhannu Sut olwg sydd ar fywyd da i chi? Ar LinkedIn E-bost Sut olwg sydd ar fywyd da i chi? dolen

    Beth sy’n eich rhwystro rhag byw’r 'bywyd da'? Sut allwch chi ddileu'r rhwystrau hyn? Sut allai'r sector cyhoeddus helpu? Rhowch wybod i ni ar y bwrdd syniadau hwn.

    Cofiwch fod hwn yn fan cyhoeddus, felly peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi neu eraill yn eich sylwadau. 

    Sylwch y bydd angen i chi ychwanegu eich e-bost ac enw sgrin i gyflwyno eich sylw. Mae hyn er mwyn helpu i greu amgylchedd ar-lein diogel i bobl rannu eu barn.  Mae'r safle hwn yn cael ei gymedroli a bydd unrhyw sylwadau sarhaus/ymosodol yn cael eu dileu.

     Os fyddai'n well gennych anfon eich syniadau/sylwadau atom yn breifat, e-bostiwch haveyoursay@powys.gov.uk 

    Dechreuwch drwy gyflwyno syniad
Diweddaru: 14 Chwef 2024, 11:37 AC