Powys Gynaliadwy
Cefndir
Mae darparu gwasanaethau llywodraeth leol gwerthfawr wrth wraidd popeth a wnawn. Gydag amseroedd cyfnewidiol a’r amodau economaidd, mae angen i ni fod yn rhagweithiol, yn arloesol ac yn flaengar er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn cydnabod yr heriau ac rydym am weithio mewn partneriaeth i archwilio'r cyfleoedd i wneud y newidiadau sydd eu hangen i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys.
Y sefyllfa ariannol
Mae Cyngor Sir Powys yn rhagweld diffyg mewn ariannu. Mae hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad ariannol cenedlaethol, sef mwy na £9.6 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyllidebol gyfredol gyda'r ffigwr hwnnw'n codi i £50.9 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf.
Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi edrych ar ein gwasanaethau i ddod yn fwy effeithlon. Er bod newidiadau wedi'u gwneud, nid yw'r dull hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir ac mae angen i ni nawr fod yn fwy radical a newid ein dull.
Beth yw ‘Powys Gynaliadwy’?
Yng Nghyngor Sir Powys, rydyn ni’n mabwysiadu dull newydd o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Rydym am sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau cryfach, tecach a gwyrddach wrth symud ymlaen, tra'n aros o fewn y gyllideb sydd ar gael.
Mae 'Powys Gynaliadwy' yn ddull rhagweithiol o fynd i'r afael â hyn - gan adolygu pa wasanaethau a ddarperir a sut, tra'n cydweithio â chymunedau lleol i archwilio datrysiadau arloesol.
Sut allwch chi gymryd rhan?
Mae ymgysylltu yn rhan bwysig o Powys Gynaliadwy. Rydym eisiau i bawb gael y cyfle i ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol Powys - p'un a ydych yn breswylydd ym Mhowys, yn aelod o staff, yn gynghorydd neu'n rhanddeiliad arall. Dim ond drwy gydweithio y gallwn wireddu ein huchelgais. Cymerwch ran!
Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan:
Rhannu syniadau. Cliciwch yma neu ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar y tab syniadau isod. | |
Atodi pin a sylw ar y fap o Bowys. Cliciwch yma neu ewch i waelod y dudalen a chlicio tab y map isod a dewiswch yr ardal hoffech chi wneud sylw arni. | |
Ymunwch â Phanel Pobl Powys. Os hoffech gael eich cynnwys a derbyn gwahoddiadau i gymryd rhan o dro i dro, ticiwch y blwch ar broffil Fy Nghyfrif: https://cy.powys.gov.uk/mewngofnodi | |
Cysylltu â’ch Cynghorydd. Caiff Cynghorwyr Lleol eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut dylai’r cyngor ymgymryd â’i wahanol weithgareddau. Defnyddiwch y dolen isod i ddod o hyd i’ch Cynghorydd: https://cy.powys.gov.uk/cynghorwyr |