Powys Gynaliadwy

Rhannu Powys Gynaliadwy ar Facebook Rhannu Powys Gynaliadwy Ar Twitter Rhannu Powys Gynaliadwy Ar LinkedIn E-bost Powys Gynaliadwy dolen

Cefndir

Mae darparu gwasanaethau llywodraeth leol gwerthfawr wrth wraidd popeth a wnawn. Gydag amseroedd cyfnewidiol a’r amodau economaidd, mae angen i ni fod yn rhagweithiol, yn arloesol ac yn flaengar er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn cydnabod yr heriau ac rydym am weithio mewn partneriaeth i archwilio'r cyfleoedd i wneud y newidiadau sydd eu hangen i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys.

Y sefyllfa ariannol

Mae'r argyfwng economaidd presennol a chostau byw cynyddol yn golygu bod Cyngor Sir Powys yn rhagweld bwlch o dros £20 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae disgwyl i hyn gynyddu i £44 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn gadael bwlch sylweddol yn ein cyllid sydd ar gael ac yn golygu na allwn fforddio parhau i ddarparu ein gwasanaethau yn yr un modd.

Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi edrych ar ein gwasanaethau i ddod yn fwy effeithlon. Er bod newidiadau wedi'u gwneud, nid yw'r dull hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir ac mae angen i ni nawr fod yn fwy radical a newid ein dull.

Beth yw ‘Powys Gynaliadwy’?

Yng Nghyngor Sir Powys, rydyn ni’n mabwysiadu dull newydd o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Rydym am sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau cryfach, tecach a gwyrddach wrth symud ymlaen, tra'n aros o fewn y gyllideb sydd ar gael.

Mae 'Powys Gynaliadwy' yn ddull rhagweithiol o fynd i'r afael â hyn - gan adolygu pa wasanaethau a ddarperir a sut, tra'n cydweithio â chymunedau lleol i archwilio datrysiadau arloesol.

Sut allwch chi gymryd rhan?

Mae ymgysylltu yn rhan bwysig o Powys Gynaliadwy. Rydym eisiau i bawb gael y cyfle i ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol Powys - p'un a ydych yn breswylydd ym Mhowys, yn aelod o staff, yn gynghorydd neu'n rhanddeiliad arall. Dim ond drwy gydweithio y gallwn wireddu ein huchelgais. Cymerwch ran!

Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan:

Icon of a lightbulbRhannu syniadau. Cliciwch yma neu ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar y tab syniadau isod.
Icon of a pin on a mapAtodi pin a sylw ar y fap o Bowys. Cliciwch yma neu ewch i waelod y dudalen a chlicio tab y map isod a dewiswch yr ardal hoffech chi wneud sylw arni.
Icon of a survey
Ymunwch â Phanel Pobl Powys. Os hoffech gael eich cynnwys a derbyn gwahoddiadau i gymryd rhan o dro i dro, ticiwch y blwch ar broffil Fy Nghyfrif: https://cy.powys.gov.uk/mewngofnodi

Icon of a phone and envelopeCysylltu â’ch Cynghorydd. Caiff Cynghorwyr Lleol eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut dylai’r cyngor ymgymryd â’i wahanol weithgareddau. Defnyddiwch y dolen isod i ddod o hyd i’ch Cynghorydd: https://cy.powys.gov.uk/cynghorwyr

Rhannu Oes gennych chi awgrym am eich ardal lleol? ar Facebook Rhannu Oes gennych chi awgrym am eich ardal lleol? Ar Twitter Rhannu Oes gennych chi awgrym am eich ardal lleol? Ar LinkedIn E-bost Oes gennych chi awgrym am eich ardal lleol? dolen

Oes gennych chi awgrym am eich ardal lleol?

3 Mis

1. I gael mynediad at y map, ewch i waelod yr adran hon a chliciwch ar fotwm glas "Ewch i’r Map". (Rhowch amser i'r map lwytho.)

2. I rannu eich barn ar ein map rhyngweithiol, yn syml:

  • Cliciwch ar y map
  • Zoom i mewn i ddod o hyd i ble rydych chi am osod eich pin
  • Dewiswch y symbol '+' i atodi pin 
  • Dewiswch y pwnc pin y mae eich sylw yn ymwneud ag ef
  • Llusgwch a gollwng eich pin ar y map (Dim ond sylwadau o fewn ffiniau sir Powys y gallwch wneud hynny).
  • Ychwanegwch eich sylw a phwyso cyflwyno

Sylwch y bydd angen i chi ychwanegu eich e-bost ac enw sgrin i gyflwyno eich sylw. Mae hyn er mwyn helpu i greu amgylchedd ar-lein diogel i bobl rannu eu barn. 

Cofiwch fod hwn yn fan cyhoeddus, felly peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi neu eraill yn eich sylwadau. Mae'r safle hwn yn cael ei gymedroli a bydd unrhyw sylwadau sarhaus/ymosodol yn cael eu dileu.

Os fyddai'n well gennych anfon eich syniadau/sylwadau atom yn breifat, e-bostiwch haveyoursay@powys.gov.uk

Diweddaru: 14 Chwef 2024, 11:37 AC