
Arolwg - Eich Barn ar Gwella Gyda’n Gilydd 2025
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn awyddus i glywed gan breswylwyr, cleifion, teuluoedd, grwpiau gwirfoddol, partneriaid ac unrhyw un arall sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd i'n helpu ni gynllunio sut rydyn ni’n cynnig gwasanaeth iechyd yn y dyfodol.
Ein cenhadaeth graidd yw darparu a chomisiynu gwasanaethau diogel sy'n cynnig y canlyniadau gorau i gleifion. Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ar Gwella Gyda’n Gilydd yn allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o ofal i bob claf; diogelu'r gwasanaethau; gwella gwydnwch lle mae'n fregus ar hyn o bryd; lleihau aneffeithlonrwydd ac ymateb i bwysau staffio a chyllidebol.
Cyn i chi gwblhau’r arolwg hwn, darllenwch ein Hachos dros Newid a chymerwch olwg ar y dogfennau eraill sydd ar gael.
Diolch.
CWESTIYNAU AM CHI
Er mwyn ein helpu ni ddeall a ydym wedi casglu barn gan ystod eang o drigolion a chymunedau, byddem yn ddiolchgar pe gallech ateb ychydig mwy o gwestiynau amdanoch chi.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw'n gyfrinachol.
Gallwch ddewis ateb rhai o’r cwestiynau ac nid eraill trwy ddewis yr opsiwn 'gwell gen i beidio â dweud'.
Mae’n arbennig o ddefnyddiol i ni ddeall pa ardal leol rydych chi’n byw ynddi, eich oedran a’ch rhywedd.
Fodd bynnag, os ydych yn dymuno hepgor yr adran hon yn gyfan gwbl, ewch i’r diwedd a dewiswch yr opsiwn “cyflwyno”
Diolch.
Sylwch:
Fel yr amlinellir yn Neddf Diogelu Data 2018, data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson byw dynodedig neu adnabyddadwy (a elwir yn 'destun y data').
Mae hyn yn cynnwys data personol categori arbennig fel: data personol am hil unigolyn; tarddiad ethnig; cyfeiriadedd rhywiol; crefydd neu gred; anabledd.
0% Ateb